Llanfair-ym-muallt: Malu cynffon tarw

Y tarw Image copyright Heddlu dyfed powys
Image caption Mae'r tarw bellach yn fyr o gynffon

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i rywrai fandaleiddio cerflun o darw yn Llanfair-ym-Muallt.

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys mi gafodd cynffon y tarw ei rwygo i ffwrdd rhywbryd yn ystod nos Lun, Gorffennaf 21.

Mae'r gynffon bellach wedi cael ei ddarganfod.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Cyngor y dref sy'n berchen ar y cerflun sydd wedi ei leoli yn y Gro, Llanfair-ym-Muallt."

Dydd Llun oedd diwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol, sy'n cael ei chynnal yn y dref bob blwyddyn.

Dyw'r heddlu heb ddatgelu os ydyn nhw'n credu bod cysylltiad rhwng hynny a'r digwyddiad.