Unipart Automotive: 78 o swyddi'n mynd yng Nghymru
- Published
image copyrightGoogle
Mae 78 o bobl wedi colli eu swyddi yn safleoedd Unipart Automotive yng Nghymru, wrth i'r cwmni gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.
Mae gan y cwmni - sy'n cynhyrchu rhannau ceir ag offer garej - ganolfannau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe, Wrecsam, Bangor, Llanelli, Trealaw a Phorthmadog.
Mae 'na gangen yng Nghaerfyrddin hefyd, ond mae hi wedi cael ei gwerthu i gwmni arall yn rhan o'r broses.
At ei gilydd, roedd Unipart yn cyflogi 1,813 o bobl ledled y DU.
Yn rhan o'r broses weinyddu, mae 21 safle wedi eu gwerthu i greu 'hybiau cynhyrchu'. Yn eu mysg, mae'r ganolfan yng Nghaerfyrddin.
Mae 1,244 o bobl wedi cael ei diswyddo i gyd.