Abertawe'n arwyddo'r gŵr o Ecwador, Jefferson Montero
- Published
Mae Abertawe wedi arwyddo'r asgellwr o Ecwador Jefferson Montero ar gytundeb pedair blynedd, am bris sydd heb ei ddatgelu.
Mae nifer o adroddiadau yn y wasg yn awgrymu ei fod wedi costio rhyw £4 miliwn.
Fe wnaeth Montero chwarae ymhob un o gemau ei wlad yng Nghwpan y Byd yn Brazil gan wneud ei farc fel chwaraewr dylanwadol.
Mae wedi sgorio wyth o goliau mewn 43 o gemau i Ecwador hyd yn hyn.
Asgellwr yw Montero sydd wedi chwarae yn Sbaen i Villarreal, Levante a Real Betis yn y gorffennol, ac mae'n ymuno â'r Elyrch o Monarcas Morelia, clwb o Mexico.
Montero yw'r pumed chwaraewr i gyrraedd Abertawe dros yr haf, gan ddilyn Gylfi Sigurdsson, Baftembi Gomis, Marvin Emnes a Stephen Kingsley.
Ond mae'r tîm o Gymru hefyd wedi gorfod colli nifer o'u sêr gan gynnwys Ben Davies, Michu a Michel Vorm.
Straeon perthnasol
- Published
- 23 Gorffennaf 2014
- Published
- 17 Gorffennaf 2014
- Published
- 27 Mehefin 2014