Ymddiheuriad ar ôl i ysbyty wrthod trin bachgen 11 oed
- Published
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro ar ôl i staff mewn ysbyty yng Ngwynedd wrthod triniaeth i fachgen 11 oed ar ôl iddo losgi ei stumog wrth geisio gwneud paned o de.
Gwrthododd staff Ysbyty Bryn Beryl ger Pwllheli drin llosgiadau Guto Williams o Fotwnnog gan fod adran mân anafiadau'r ysbyty wedi cau ddwy awr yn gynharach.
Gwrthododd staff yr ysbyty alw am ambiwlans i Guto, felly roedd yn rhaid i'w rieni ffonio eu hunain er mwyn mynd ag ef i Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Nid oedd modd iddynt yrru 25 milltir i Fangor eu hunain oherwydd roedd Guto mewn gormod o boen i wisgo gwregys diogelwch.
Dywedodd Eirian Holt, mam Guto ei bod yn flin fod ei mab wedi gorfod dioddef yn hirach nag y dylai.
Yn ôl Ms Holt pan gyrhaeddon nhw Bryn Beryl ar 16 Gorffennaf, fe wnaeth staff yr ysbyty ateb yr alwad intercom, ond ni gynigiodd y person ar ben arall y lein i ffonio am ambiwlans i Guto.
Roedd yn rhaid i ni aros yn y car
"Felly roedd yn rhaid i ni aros yn y car nes i'r ambiwlans gyrraedd," meddai.
"Ni chynigiodd yr ysbyty i ni ddisgwyl tu mewn i'r adeilad, na chynnig unrhyw driniaeth o gwbl i Guto.
"Yna pan gyrhaeddon ni Bangor roedd y nyrsys a'r meddygon yn wych efo fo.
"Dwi'n teimlo os fysa staff Bryn Beryl wedi rhoi rywbeth i Guto tuag at y boen, yna byddai hynny wedi arbed i ni alw'r ambiwlans allan hefyd."
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Bryn Beryl ar agor 10:00-18:00 bob dydd.
Mae'r uned mân anafiadau yn Ysbyty Alltwen ym Mhorthmadog ar agor 8:00-20:00 ac mae gwasanaeth meddygon teulu tu allan i oriau rhwng 18:30-08:00 yn ystod yr wythnos a 24 awr ar benwythnosau.
Ychwanegodd y llefarydd: "Hoffem ymddiheuro nad oedd y nyrs wedi cynnig galw am ambiwlans nac wedi cynnig iddynt aros yn yr adeilad nes i'r ambiwlans gyrraedd."