Medal gyntaf i Gymru
- Published
Mae Tîm Cymru wedi ennill eu medal gyntaf yn Glasgow 2014, diolch i'r dair oedd yn cystadlu yn y gymnasteg rythmig.
Roedd Frankie Jones, Laura Halford a Nikara Jenkins ar dân wrth iddyn nhw sicrhau medal arian i Gymru.
Roedden nhw ar y blaen am gyfnod hir, ond llwyddodd Canada i sicrhau'r aur yn y diwedd.
Jones bellach yw'r athletwr sydd wedi ennill y mwyaf o fedalau yn hanes Gemau'r Gymanwlad i Gymru.