Arian i Elena yn y saethu
- Published
Mae Elena Allen o Gasnewydd wedi sicrhau medal arian yn y gystadleuaeth saethu colomennod clai yn Glasgow.
Llwyddodd i gael sgôr o 13-16, oedd ddim ond un yn llai na gafodd y fuddugwraig Laura Coles o Awstralia.
Cafodd Allen ei geni'n Rwsia ond mae hi bellach yn byw yng Nghasnewydd.
Hon yw trydedd medal Tîm Cymru yn y gemau.