Frankie Jones yn ennill aur cyntaf Tîm Cymru
- Published
Mae gymnastwraig rhythmig Cymru Frankie Jones wedi ennill medal aur cyntaf Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.
Enillodd Jones, 23, fedal aur yng nghystadleuaeth y rhuban, wedi iddi ennill tair arian yn gynharach yn y bore.
Daeth Jones yn ail yng nghystadlaethau'r cylchyn a'r clybiau, ac eto yng nghystadleuaeth y bêl, lle daeth y Gymraes Laura Halford yn drydydd.
Fe wnaeth Jones a Halford ennill arian ac efydd ar ail ddiwrnod y cystadlu, yn ogystal ag arian yn y gystadleuaeth tîm.
Mae'r gymnastwyr wedi ennill wyth allan o 11 medal Tîm Cymru hyd yn hyn.
'Diweddglo perffaith'
Yn dilyn ei buddugoliaeth, dywedodd Frankie wrth BBC Cymru bod yr ymateb wedi bod yn rhyfeddol.
"Byddwn i erioed wedi dychmygu hyn o'r foment gyntaf yn dal y faner ar y diwrnod cyntaf tan hyn. Y diwrnodau gorau yn fy mywyd erioed," meddai.
"Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn bosibilrwydd dod yn agos at aur felly dwi mor falch fy mod i wedi gallu cael y faner i fyny yna" (ar y podiwm).
Er ei llwyddiant yn y gemau eleni, dywedodd na fyddai'n newid ei meddwl am ymddeoliad.
"Dyna'r diweddglo perffaith i'r yrfa orau y gallwn i wedi breuddwydio amdano."
Mewn cyfweliad emosiynol, dywedodd tad Frankie Jones nad oedd geiriau i ddisgrifio ei deimladau.
"Does gen i ddim geiriau, jyst fel Frankie, galla'i ddim esbonio'r peth. Mae'n wych."