Record i Carlin ond siom i'r tîm rygbi saith
- Published
Mae rhai o athletwyr Tim Cymru wedi bod yn cystadlu ar bedwerydd diwrnod Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow.
Enillodd Cymru ddwy fedal aur ddydd Sadwrn, wrth i Frankie Jones a Natalie Powell ennill eu cystadlaethau gymnasteg a judo.
Ddydd Sul llwyddodd Jazz Carlin i osod record newydd yn y ras 800m dull rhydd, wrth iddi ennill y rownd rhagbrofol mewn amser o 8:22.69.
Bydd Carlin yn symud ymlaen i'r rownd derfynol nos Lun.
Dywedodd: "Roeddwn i eisiau dod i mewn a rhoi perfformiad da ar ol dau ddiwrnod o orffwys, ond hefyd cadw rhywbeth at nos Lun."
Roedd dechrau da i Joe Cordina yn y sgwâr bocsio hefyd, wrth iddo guro David Gauthier o Ganada a sicrhau ei le yn chwarteri'r gystadleuaeth 60kg.
Ond roedd siom i dîm rygbi saith bob ochr Cymru ar ôl iddyn nhw golli yn eiliadau olaf eu gem yn chwarteri'r gystadleuaeth.
Dechreuodd Cymru yn dda gan fynd ar y blaen o 19-0, ond daeth Awstralia yn ol yn gryf yn yr ail hanner a sgorio cais o dan y pyst yn eiliadau olaf y gêm i sicrhau buddugoliaeth o 21-19.
Mae'r cystadlaethau athletau hefyd wedi dechrau ym Mharc Hampden, lle mae Beverley Jones ac Olivia Breen wedi dechrau cystadlu yn y naid hir, categori T37/38.