Ymateb heddlu i brotest Gaza yng Nghaerdydd yn 'wael'
- Published
Mae Heddlu De Cymru wedi cael eu beirniadu yn dilyn gwrthdaro mewn protest yng Nghaerdydd, wedi i fideo o'r digwyddiad ymddangos.
Cafodd cadeiriau a gwydrau eu taflu wrth i 1,500 o bobl orymdeithio drwy ganol y ddinas, yn protestio yn erbyn ymgyrch filitaraidd Israel yn Gaza.
Cafodd dau eu harestio, ond dywedodd yr heddlu nad oedd y gwrthdaro wedi ei gysylltu yn uniongyrchol a'r rali.
Mae AS lleol wedi codi pryderon am y sefyllfa, ac mae cynghorydd wedi dweud bod ymateb yr heddlu yn "wael".
Dywedodd yr heddlu mai nifer fach oedd yn rhan o'r digwyddiadau treisgar brynhawn Sadwrn, a bod y rhan fwyaf wedi ymddwyn yn dda.
Pryderon
Dywedodd yr heddlu bod dyn 22 oed o Gaerffili wedi ei arestio am ymosod, a dyn 33 oed o Bontypridd wedi ei arestio am affräe.
Ychwanegodd yr heddlu nad oedd y dynion yn rhan o'r rali, a'u bod wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Fe wnaeth Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty, godi pryderon am blismona yn y digwyddiad.
"Rydw i wedi cael nifer o sgyrsiau hefo'r heddlu am y digwyddiadau ac maen nhw'n fy sicrhau eu bod yn ymchwilio i'r mater yn drylwyr.
"Roedd heddlu a Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu yn monitro'r sefyllfa.
"Roeddwn i yn cymryd rhan yn yr orymdaith ac fe wnes i weld y digwyddiad ar Heol Santes Fair.
"Roedd yr orymdaith ei hun yn heddychlon ond cafodd rhai pethau annifyr eu dweud o'r tu allan a dwi'n meddwl bod rhai pobl yn taflu pethau...
"Wnes i ddim gweld y digwyddiad ar Mill Lane ond fe wnes i siarad gyda rhai oedd yn dweud bod gwydrau wedi eu taflu. Fe wnes i ffonio'r heddlu yn syth."
'Diffyg presenoldeb'
Dywedodd cynghorydd Casnewydd, Majid Rahman bod y protestwyr wedi clywed sylwadau hiliol wrth gerdded i lawr Heol Santes Fair.
"Cafodd llawer o brotestwyr eu hanafu ond gan fod dim heddlu, ni chafodd y bobl wnaeth daflu gwydrau, byrddau a chadeiriau eu dal," meddai.
"Roedd Heddlu De Cymru yn wael - roedd diffyg presenoldeb.
"Pan gyrhaeddais Neuadd y Ddinas, gwelais dau swyddog, ac yna daeth fan o swyddogion, ond roedd hi'n rhy hwyr gan ein bod ni i gyd yn ôl yn ddiogel.
"Doedd yr ymateb ddim yn ddigonol, roedd o'n wael ac mae angen iddyn nhw roi atebion."
Fe wnaeth Heddlu'r De ryddhau datganiad ar ôl y brotest gan ddweud: "Roedd yr arestiadau yn ymwneud a digwyddiad ar Mill Lane ac mae swyddogion hefyd yn ymchwilio i ddigwyddiad ar Heol Santes Fair i weld os oedd trosedd.
"Mae'r heddlu yn parhau gyda'r ymchwiliad drwy ddefnyddio lluniau CCTV ac ymholiadau gyda thystion, ond hoffai Heddlu De Cymru i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw."
Wrth ymateb i'r pryderon, dywedodd yr Uwch Arolygydd Dan Howe: "Roedd yr heddlu yno i sicrhau diogelwch pawb oedd yn rhan o'r digwyddiad, ac fe wnaeth y rhan fwyaf ymddwyn mewn ffordd dawel a synhwyrol, ond aeth swyddogion ychwanegol i roi sicrwydd i'r gymuned.
"Yn anffodus nid oedd pawb yng Nghaerdydd brynhawn ddoe wedi ymddwyn yn dda ac roedd nifer fach yn rhan o ddigwyddiad treisgar wnaeth effeithio ar brotest heddychlon."
Ychwanegodd bod y brotest wedi symud ymlaen yn heddychlon, a diolchodd y gymuned am eu cefnogaeth.