Tân ysgol wedi ei ddechrau yn fwriadol
- Published
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y De wedi dweud bod tân mewn hen ysgol yn Rhondda Cynon Taf wedi ei ddechrau yn fwriadol.
Cafodd criwiau eu galw i hen Ysgol Gynradd Abertaf am 00:45 fore Sul.
Aeth criwiau o Abercynon, Aberdâr, Pontypridd a Treharris i ddelio hefo'r tân, ond cafodd difrod mawr ei wneud i'r adeilad.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu.