Llwyddiant i dimau rygbi'r gynghrair Cymru dros y Sul
- Cyhoeddwyd

Mae hyfforddwr Scorpions De Cymru, Mike Grady, wedi canmol Rygbi'r Gynghrair Cymru am benderfynu caniatáu chwarae gêm ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Fe drechodd y Scorpions dîm Skolars Llundain o 19-18 mewn gêm gyffrous dros y penwythnos, diolch i gôl adlam gan Paul Emanuelli gyda phedwar munud yn weddill.
Roed torf o 486 yn gwylio'r gêm, y dorf fwyaf tu allan i'r gogledd yn ystod tymor 2014 mewn unrhyw un o gemau Pencampwriaeth 1.
Dyma'r tro cyntaf i'r Scorpions ennill yng Nghymru ers dros flwyddyn.
"Roedd yn ddigwyddiad gwahanol heddiw," meddai Mr Grady wedi'r fuddugoliaeth.
"Roedd y dorf y tu ôl i ni a phawb yn canu a'r awyrgylch yn wych.
"Maen nhw'n son am y deunawfed dyn, ac roedd gennym ni'r deunawfed dyn am y tro cyntaf mewn gêm gartref y tymor hwn.
"Mae wedi bod yn ddiwrnod gwych, y gobaith yw gallu parhau â'r awyrgylch yma ar ôl dychwelyd i Faesteg yn ein gêm gartref nesaf a chael buddugoliaeth arall."
Dywedodd Mr Grady eu bod yn gobeithio cael chwarae gêm arall, "neu efallai mwy nag un" ar Barc yr Arfau y flwyddyn nesaf.
Hefyd dros y Sul, fe enillodd Gwendraeth Valley Raiders eu gem yn erbyn Valley Cougars A o 50 pwynt i 32 ac felly yn cymhwyso ar gyfer gemau ail-gyfle Cymru, tra trechodd tîm dan 19 De Cymru eu gwrthwynebwyr o Lundain o 54 pwynt i 10.