Dysgu mwy am gynllun rheilffordd £44m rhwng Wrecsam a Chaer
- Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol Wrecsam, Ian Lucas, yn annog pobl i ymweld â digwyddiad Network Rail er mwyn cael mwy o wybodaeth am y cynllun rheilffordd £44 miliwn rhwng Wrecsam a Chaer.
Mae Mr Lucas wedi ymweld â chanolfan Network Rail yn Yr Orsedd yn ddiweddar i ddarganfod mwy am y gwaith, fydd yn cynnwys ail-ddeuoli rhan sylweddol o'r trac rhwng Wrecsam a Saltney ger Caer.
"Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig ac yn golygu uwchraddio rhan sylweddol o'r trac," meddai.
"Bydd hyn yn cael effaith ar bobl yn lleol, ond roeddwn i wedi fy mhlesio yn ystod fy ymweliad diweddar gyda pharodrwydd Network Rail i wrando ar bobl a chymryd eu pryderon i ystyriaeth.
"Byddwn yn annog unrhyw berson gyda chwestiynau ynglŷn â'r gwaith i alw mewn dydd Mawrth i ddarganfod mwy."
Mae Mr Lucas wedi cefnogi gwella'r gwasanaeth trenau i Wrecsam ers peth amser, a dywedodd ei fod yn fodlon bod y gwaith wedi'i gychwyn, ac y byddai modd gwneud mwy o welliannau yn y dyfodol.
"Yn ystod fy ymweliad, fe wnaed yn gwbl eglur i mi nad ydi'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i wella ac uwchraddio'r lein yn golygu na all mwy o welliannau gael eu gwneud yn y dyfodol," ychwanegodd.
"Mae hynny'n golygu y gall y buddsoddiad presennol, sydd i'w groesawu, helpu i wella'r gwasanaeth ym mhellach yn y dyfodol."
Beirniadaeth
Ond er gwaethaf brwdfrydedd Mr Lucas am y cynllun, mae rhai wedi beirniadu'r prosiect am beidio â mynd yn ddigon pell, gan honni bod gogledd Cymru yn colli allan ar draul buddsoddi yn ne Cymru.
Ar ddechrau'r mis galwodd Aelod Cynulliad Gogledd Cymru Aled Roberts ar i Lywodraeth Cymru adfer y cynllun gwreiddiol i ddeuoli'r lein yr holl ffordd o Wrecsam i Gaer.
Daeth y galwad yma wedi cyhoeddiad y byddai arian ychwanegol yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth y DU ar Lannau Mersi a fyddai'n galluogi gwasanaeth uniongyrchol rhwng gogledd Cymru a Lerpwl a Maes Awyr John Lennon.
Teithio i Loegr nid De Cymru
"Tra mae Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd ac wedi buddsoddi mewn cynllun i ddeuoli'r rheilffordd yn ne Cymru, maen nhw wedi penderfynu peidio â gwario yng ngogledd ddwyrain Cymru gan olygu mai dim ond dau draean o'r lein rhwng Wrecsam a Chaer fydd yn cael ei deuoli," meddai Mr Roberts.
"Ni fydd y deuoli rhannol yma'n ddigon i adael i fwy o wasanaethau redeg o Wrecsam a Sir y Fflint i Loegr, er bod cyhoeddiad o fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth y DU yn gwella'r cyswllt rhwng Lerpwl, Sir Caer a gogledd Cymru."
Yn ôl Mr Roberts, mae Aelodau Seneddol Llafur yn Nhŷ'r Cyffredin wedi galw am fwy o wasanaethau dros y ffin, ac mae'r holl dystiolaeth yn dangos bod gan fwyafrif llethol pobl gogledd Cymru fwy o ddiddordeb mewn teithio o Gymru i Loegr yn hytrach na i dde Cymru.
Bydd y digwyddiad ddydd Mawrth rhwng 3yh-7yh yn Neuadd Bentref Yr Orsedd a Burton, ar Ffordd yr Orsaf, Yr Orsedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2014