Diwrnod 6: Gobaith y Cymry am fwy o fedalau yn Glasgow
- Published
Ar ôl llwyddiant y Cymry ddydd Llun, a thrydedd medal aur Cymru yn cael ei hennill gan Jazz Carlin yn y pwll, fe fydd 'na nifer yn cystadlu ar chweched niwrnod Gemau'r Gymanwlad ac yn gobeithio cael mwy o fedalau.
Fe fydd Carlin yn ôl yn y dŵr ddydd Mawrth wrth iddi hi gystadlu yn y 400m dull rhydd ac fe fydd hi a Georgia Davies yn cystadlu yn y ras gyfnewid dull rhydd.
Bydd Davies hefyd yn rownd derfynol 50m cefn gyda gobaith am fedal aur arall i Gymry.
Dydd Llun fe wnaeth hi dorri record Gemau'r Gymanwlad wrth ennill y rhagras.
Fe fydd Ieuan Lloyd yn rhan o dîm dynion yn y ras gyfnewid dull rhydd i ddynion.
Mae llwyddiant Carlin wedi rhoi ysbrydoliaeth i Dîm Cymru yn ôl Davies.
"Fe wnes i aros i weld seremoni medal Jazz," meddai.
"A chlywed Hen Wlad Fy Nhadau.
"Mae wedi fy ysbrydoli a bydd yn helpu i fi fynd yn gyflym."
Creu Hanes
O ran y bocsio fe fydd Charlene Jones yn creu hanes.
Hi ydi'r ferch gynta o Gymry i gystadlu mewn bocsio a bydd yn herio Keshani Hansika o Sri Lanka yn y cylch.
Bydd Andrew Selby hefyd yn cystadlu yn y pwyau ply; Joe Cordina (ysgfan); Nathan Thorley (ysgafn trwm); Zack Davies (ysgfan-welter) a Lauren Price (pwysau canol).
Yn y reslo fe fydd Craig Pilling a Thomas Hawthorn yn cystadlu.
Parhau i gystadlu ym mharc Hampden y mae Ben Gregory, Curtis Matthews a David Guest yn y Decathlon tra bydd Elinor Kirk yn rownd derfynol y 10000m.
Bydd Jonathan Edwards. Matthew Richards ac Osian Jones yn cystadlu yn taflu'r morthwyl a bydd rowndiau rhagbrofol i Dai Greene (400m dros y clwydi) a Joe Thomas (800m).
Bowls
Fe fydd 'na Gymry yn cystadlu yn y badminton gyda chystadlaethau unigol, dwbl a chymysg ac amryw o gystadlaethau sboncen a thenis bwrdd.
Mae'r cystadlaethau saethu yn parhau yn Dundee gyda nifer o rowndiau rhagbrofol a therfynol gyda Jonathan Davies, Mike Wixley, Mike Barmsey, Jenny Corish, Sian Corish, Gareth Morris a Chris Watson yn cystadlu.
Yn Kelvingrove y bydd y cystadlaethau bowls gyda Robert Weale yn ail a thrydedd rownd senglau'r dynion; bydd pedwarawd y dynion; parau'r merched; triawd y merched a'r triawd agored ymlaen hefyd.
Fe fydd Dynion Hoci Cymru yn herio De Affrica tra bydd tîm Cymru yn wynebu'r un wlad mewn pêl-rwyd a bydd rowndiau olaf tîm gymnasteg artistic Cymru i ddynion a merched.
Mae'r merched ar hyn o bryd yn drydydd.