Bygythiad i 100 o swyddi ailgylchu
- Published
Mae cwmni Sims Group wedi cadarnhau eu bod wedi dechrau cyfnod o ymgynghori am gau ffatri ailgylchu yn nociau Casnewydd fyddai'n arwain at golli bron 100 o swyddi.
Dywed y cwmni y bydd 99 swydd yn mynd os fydd safle Waste Electrical and Electronic Equipment (WEEE) yn cau.
Dechreuodd y cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod ar 10 Gorffennaf.
Ni fydd ffatri ailgylchu oergellau'r cwmni dros y ffordd yn diodde' - mae 35 o bobl yn gweithio yno.
Fe fydd undebau a chynrychiolwyr y gweithwyr yn rhan o'r ymgynghoriad yn ôl Ben Alexander, llefarydd y cwmni.
Dywedodd Jeff Beck o undeb y GMB: "Mae proses ymgynghori yn arferol yn ystod bygythiad diswyddiadau, ond does dim penderfyniad terfynol wedi ei wneud am ddyfodol y ffatri.
"Mae'r cwmni wedi dweud wrth yr undeb bod deddfwriaeth a newidiadau yn y farchnad yn y DU wedi arwain at y busnes yn colli'i atyniad masnachol.
"Mae nifer o fesurau mewn grym i geisio osgoi cau'r adnodd yma, ac mae'r rhain yn cael eu trafod fel rhan o'r ymgynghoriad."