Paul Mapps yn euog o lofruddiaeth
- Published
image copyrightHeddlu gwent
Mae rheithgor wedi cael Paul Mapps yn euog o lofruddio dyn 27 oed yn Sir Caerffili.
Roedd Mapps o Drinant wedi trywanu Ian Davies mewn parti yn Nhrinant, ger Trecelyn ar Ionawr 11.
Bu Mr Davies farw o'i anafiadau yn Ysbyty Brenhinol Gwent.
Roedd Mapps wedi dweud wrth Lys y Goron Caerdydd ei fod wedi gweithredu i amddiffyn ei hun.
Ond fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth trwy ddyfarniad mwyafrif.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar Awst 6.
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Ionawr 2014