Efydd yn y gymnasteg artistig
- Published
Mae tîm athletau Cymru wedi ennill medal efydd yn y gystadleuaeth gymnasteg artistig i ferched.
Roedd Canada yn dynn ar eu sodlau ond doedden nhw ddim yn gallu gwella ar berfformiad y Cymry.
Lloegr gafodd y fedal aur yn y gystadleuaeth gydag Awstralia'n cymryd yr arian.
Mae athletwyr Tîm Cymru bellach wedi ennill 24 medal.