Michael Pearce: Naw mlynedd o garchar am dynladdiad babi
- Published
Mae Michael Pearce, 33, wedi ei ddedfrydu i naw mlynedd o garchar wedi i reithgor ei gael yn euog o ddynladdiad babi chwe wythnos oed.
Bu farw Alfie Sullock ym mis Awst y llynedd.
Meddai'r Barnwr Mr Ustus Barker: "Bu farw Alfie o ganlyniad i anafiadau lluosog a achoswyd gennych chi. Oherwydd eich bod wedi gwadu'r cyhuddiadau, mae'n bosib na wnawn ni fyth wybod os oedd hyn wedi ei achosi gan genfigen wedi i Donna [mam Alfie] wrthod cael plentyn gyda chi yn gynharach y noson honno."
Fe gymrodd y rheithgor 35 awr a 56 munud i drafod, a phenderfynu bod Pearce, o ardal Caerffili, yn euog o ddynladdiad, a hynny o fwyafrif o 10 i ddau.
Roedd y rheithgor wedi penderfynu ei fod yn ddieuog o gyhuddiad o lofruddiaeth.
Roedd yr erlyniad yn honni bod Pearce wedi lladd Alfie pan fu'n ei warchod ar ôl i'w fam Donna, fynd allan gyda ffrindiau am y tro cyntaf ers ei eni.
Daeth Ms Sullock yn ffrindiau gyda Pearce pan oedd hi chwe mis yn feichiog a doedd ganddi ddim pryderon am adael ei mab gydag o.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd, bod Alfie wedi ei guro gan esgid a photel blastig.
Cafodd y babi ei gludo ar frys i'r ysbyty gan barafeddygon oriau wedi iddo gael ei adael yng ngofal Pearce.
Roedd yntau wedi ffonio 999 a dweud nad oedd y babi'n anadlu ond methodd meddygon yn yr ysbyty ag adfywio'r bachgen a bu farw bedwar diwrnod ar ôl cyrraedd yno.
Ar ôl yr achos dywedodd Donna Sullock eu bod fel teulu yn siomedig gyda'r dyfarniad.
Straeon perthnasol
- Published
- 29 Gorffennaf 2014
- Published
- 16 Gorffennaf 2014
- Published
- 9 Gorffennaf 2014
- Published
- 8 Gorffennaf 2014
- Published
- 19 Chwefror 2014