Gohebu o'r Steddfod: Cofio Glyn Evans

  • Cyhoeddwyd
Glyn EvansFfynhonnell y llun, Tegwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,
Llun o Glyn Evans yn Eisteddfod Llanelli 2000 gan ei gyfaill Tegwyn Roberts: "Ei foddhad oedd ei waith, a'i waith oedd ei foddhad."

Bydd bwlch mawr ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr eleni ar ôl y diweddar Glyn Evans, newyddiadurwr fu'n dod â straeon yr ŵyl i wefan BBC Cymru ers blynyddoedd.

Fe fyddai ymweliad y Brifwyl â Llanelli wedi bod yn garreg filltir arwyddocaol i Glyn gan mai yma, yn Eisteddfod Llanelli 2000, y gweithiodd yn ei eisteddfod gyntaf i'r BBC.

Roedd newydd ei benodi i wasanaeth newydd BBC Cymru ar y we, sef BBC Cymru'r Byd, a oedd yn dechrau'r flwyddyn honno.

Yn yr eisteddfod honno hefyd enillodd wobr gyntaf am ei gyfrol o gerddi, Y Print Mân.

Fel teyrnged iddo, edrychwn yn ôl ar ddim ond rhai pytiau o'r cannoedd o erthyglau, blogiau a chyfweliadau eisteddfodol a gyhoeddodd dros y blynyddoedd yn ei eiriau difyr ei hun, gan ddiolch iddo amdanyn nhw:

Llanelli 2000

Rhodd Lanelli

Bydd yna lawer o sôn dros y misoedd nesaf am faint o les a wnaeth ymweliad yr Eisteddfod i Lanelli.

Ni ddylem anghofio pa mor llesol a fu Llanelli i'r Eisteddfod ac i eisteddfodwyr ychwaith.

Os rhoddodd yr Eisteddfod chwistrelliad o Gymreictod i Lanelli rhoddodd Llanelli, hithau, chwistrelliad o hawddgarwch, cyfeillgarwch a brwdfrydedd i'r Eisteddfod hefyd.

I mi, bydd Eisteddfod Llanelli yn un nad anghofiaf byth.

Cofio Elfed Lewis

Y mae'r bwlch a adawodd i'w deimlo ar y maes wrth inni ddisgwyl ei weld yn dod rownd rhyw gornel a'i wên yn lledu wrth iddo weld rhywun parod am sgwrs yr oedd yn ei adnabod.

Lladron Steddfodol

Oes, mae yna ddwyn wedi bod yn haul llygad goleuni gydag un cyfrifiadur penglin wedi troi'n gyfrifiadur tan gesail rhywun gyda dwylo blewog.

Er gwaethaf hyn roedd pennawd dramatig yn y Daily Post - 'Crime wave hits Eisteddfod' yn gorddweud pethau yn go arw achos ychydig drybeilig o ddwyn fu yna mewn gwirionedd.

Er doedd hynny ddim cysur i mi wedi i rywun fynd efo fy ymbarel ar ddiwrnod o gawodydd trymion. Plîs gâi hi'n ôl - dydw i ddim wedi talu amdani eto!

Anrhydedd i Gwynfor Evans

Yr oedd yn olygfa llawn emosiwn gyda dagrau yn llygaid sawl un wrth i Gwynfor Evans dderbyn gwobr ryngwladol am ei gyfraniad fel Cymro yn un o eisteddfodau sir a roddodd gymaint o gysur ac o boen iddo yn ystod ei yrfa faith fel gwleidydd.

Disgrifiad o’r llun,
Gwynfor Evans ar y llwyfan

Yr oedd ar y llwyfan i dderbyn gan yr Archdderwydd dlws gwobr newydd, Cymry'r Cyfanfyd.

Gwelai rhai hi'n chwithig mai o'r Unol Daleithiau y daeth y wobr hon i Gwynfor Evans yn hytrach nag oddi wrth rhyw sefydliad yng Nghymru.

Sir Ddinbych a'r Cyffiniau, Dinbych 2001

"Nid y fi yw'r orau," meddai merch Cadair Dinbych

Ewch a gwnewch chwithau yr un modd oedd yr anogaeth i ferched eraill Cymru gan y fenyw gyntaf erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.

Disgrifiad o’r llun,
Mererid Hopwood

A'r neges galonogol gan Mererid Hopwood o Langynnwr, Caerfyrddin, oedd fod yna nifer o ferched eraill yng Nghymru sy'n gynganeddwyr digon da i ennill y brif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Yr oedd yn hen bryd i ferch ennill y Gadair gan fod rhai yn honni fod cynganeddu y tu draw i ferched ond dydi hynny ddim yn wir - ac os yr ydw i yn gallu gwneud fe all unrhyw ferch," ychwanegodd.

Dadbobolgeiddio

Y mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn ail-adrodd neges a ymddangosodd ar BBC Cymru'r Byd echdoe - nad wrth nifer yr ymwelwyr y mesurir llwyddiant eisteddfodau'r dyfodol.

Gyda nifer yr ymwelwyr yn sicr o ostwng o flwyddyn i flwyddyn yn sgîl teledu digidol dywed Eifion Lloyd Jones mai ffyn mesur eraill a ddefnyddir i fesur llwyddiant.

Edrychwn, felly, ymlaen at eisteddfod fwyaf llwyddiannus y ganrif tua 2050 - gyda phawb yn aros adref a neb yn eistedd mewn tagfa draffig a'r maes a'r pafiliwn yn berffaith wâg a chadeirydd pwyllgor gwaith yn canmol llwyddiant yr eisteddfod ddi-gynulleidfa gyntaf erioed.

Disgrifiad o’r llun,
Philip Jones Griffiths yn Ninbych

Y ffotograffydd Philip Jones Griffiths yn yr Eisteddfod

Yn enedigol o Ruddlan mae Philip Jones Griffiths yn ffotograffydd byd enwog ac yr oedd ar faes yr Eisteddfod yn Ninbych beth cyntaf fore Sadwrn.

Yn enwog am ei luniau o ryfeloedd yn enwedig Rhyfel Fietnam yr oedd wedi hedfan o Efrog Newydd i ddod i weld yr arddangosfa.

"Dwi'n gynnyrch Dyffryn Clwyd ac mae bob amser yn dda bod adref," meddai wrth BBC Cymru'r Byd.

Sir Benfro, Tyddewi 2002

Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Daeth Myrddin ap Dafydd ag elfen newydd o ysgafnder i seremoni'r cadeirio trwy roi'r Archdderwydd newydd, Robyn Llŷn, mewn rhywfaint o dwll gyda'i ddewis o ffugenw, Pawb yn y Pafiliwn.

"Ond yr oedd gen i ddigon o hyder yn nawn gyfreithiol Robyn Léwis i ddod allan o'r gongl y rhoddais i o ynddi hi," meddai gan ychwanegu i'r ysgafnder a gyflwynodd y ffugenw i awyrgylch y seremoni fod yn help iddo ef ei hun wrth ddisgwyl am y foment fawr yn y gynulleidfa.

Y brenin yn agor Penfroc

Am ddau o'r gloch brynhawn Sadwrn agorwyd pabell roc Eisteddfod Tyddewi 2002 yn swyddogol gan frenin y byd roc a rôl.

Disgrifiad o’r llun,
'Elfus Preseli' yn Agor Penfroc

Na, nid y brenin wedi atgyfodi oedd y gŵr yn y wisg wen, y sbectols tywyll a'r tlysau aur ond Bil Hughes o Gaernarfon, neu Elfus Presli (Preseli yn ystod yr wythnos hon) fel y gelwir ef.

Y Cynulliad, y Gymraeg a'r Archdderwydd

Archdderwydd newydd Cymru oedd y cyntaf i arwyddo deiseb sy'n dweud nad yw cynlluniau'r Cynulliad Cenedlaethol i achub y Gymraeg yn ddigonol.

Ac y mae Robyn Léwis wedi amddiffyn ei weithred fel un sy'n gwbl gydnaws a'i safle fel archdderwydd.

"Pwrpas Gorsedd y Beirdd ydi diogelu'r Gymraeg ac mi fydda i yn dehongli diogelu y Gymraeg yn fy ffordd fy hun," meddai wrth BBC Cymru'r Byd wedi iddo roi ei groes ar boster y tu allan i babell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Maldwyn a'r Gororau, Meifod 2003

"Steddfod yn Stuffy"

Mae Gwenno Saunders am greu trwbl meddai. Mae'r "Steddfod yn stuffy" a "mas o gysylltiad gyda phobl ifanc". Darllenwch ei sgwrs ar lein ar BBC Cymru'r Byd ddydd Iau.

Disgrifiad o’r llun,
Gwenno Saunders yn cynnal sgwrs ar-lein

Beirdd mewn nics yn codli

Gyda'r geiriau nicyrs a thrôns ynddynt eu hunain yn siŵr o godi gwên ar wyneb Cymry yr oedd y cyfle i weld rhai o feirdd mwyaf adnabyddus Cymru yn gwisgo rhai ar Faes Eisteddfod yn demtasiwn y methodd rhai eisteddfodwr â'i gwrthsefyll bnawn Mawrth.

Trefnwyd y temtiad yn niffeithwch poeth Meifod gan gwmni pishyn.com, yr unig wefan gwbl Gymraeg yn y byd i rai sy'n chwilio am gariad ...

Ac ar garped coch, wel mat mewn gwirionedd, bnawn Mawrth yr oedd yna gnwd o feirdd wedi dod ynghyd i ddod â rhywfaint o ddiwylliant - wel, odl a mydr efallai - i fyd nics a thronsiau gan beri i'r entendres fod yn ddyblach na'r rhan fwyaf o welyau.

Araith Gymraeg Lembit Opik

Traddododd Aelod Seneddol Maldwyn ei araith Gymraeg gyntaf erioed oddi ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol nos Wener.

A chyfaddefodd ei fod yn cael ei dynnu nid yn unig rhwng dwy Gymraes ond rhwng dwy Gymraeg hefyd.

Cymraeg y gogledd mae ei athrawes, Delyth, yn ei ddysgu iddo ond Cymraeg y de sydd gan ei gariad, Siân Lloyd, dynes tywydd y teledu.

Ac mewn araith llawn hiwmor wrth gymryd rhan yn seremoni agoriadol yr Eisteddfod dywedodd Lembit hefyd ar pwy y dylai eisteddfodwyr roi'r bai os na fydd tywydd da ym Meifod.

Casnewydd a'r Cylch 2004

Cwrw ar y maes am y tro cyntaf

"Dydio'n beth braf medru trafod pethau yn y Steddfod dros beint fel hyn?"

Disgrifiad o’r llun,
Iechyd da: Twm Morys a Myrddin ap Dafydd

Cafodd y bar ar faes yr Eisteddfod gymeradwyaeth frwd bardd cadeiriol y llynedd, Twm Morys, a oedd ymhlith y fintai gyntaf ar y maes i godi'r bys bach ddydd Sadwrn.

A pha gwmni gwell iddo na phrifardd arall, Myrddin ap Dafydd, un o'r beirniaid a swynwyd gan awdl Twm y llynedd a'r ddau yn rhagweld llwyddiant mawr i'r fenter newydd hon.

Sibrydiad yr wythnos

"Pwy gaiff y gadair yfory?" holwyd ymhlith ein gilydd ddydd Iau.

"Neb," oedd yr ateb a'r sibrydion yn dew ymhlith Y Rhai sy'n Gwybod mai Steddfod Cadair Wâg fyddai un Casnewydd.

Ac, yn wir, "Neb" ddaru ennill gan mai dyna ffugenw'r bardd cadeiriol.

Y sibrydion, felly, yn ffeithiol gywir ond wedi eu camddehongli.

A faint o weithiau mae hynny'n digwydd mewn bywyd?

Papur newydd Y Byd yn cael ei gyflwyno i'r maes

Anogaeth i fynd allan i genhadu ac i efengylu dros Y Byd a gafwyd gan Huw Edwards ddydd Iau.

Yn annerch cynulleidfa yn y Babell Lên dywedodd Mr Edwards fod yn rhaid i'r "cyfle mawr olaf hwn i sefydlu papur dyddiol Cymraeg" lwyddo a galwodd ar y gynulleidfa i anwybyddu y rhai hynny sy'n codi pob math o ofnau a darogan pob math o anawsterau ynglŷn â'r fenter.

Robin Llywelyn: mynediad am ddim

Mae prif nofelydd Eisteddfod Casnewydd wedi galw ar y Cynulliad i roi digon o arian i'r Eisteddfod Genedlaethol i alluogi pawb gael mynediad am ddim.

Byddai miliwn o bunnau yn ddigon ar gyfer gwneud hynny meddai Robyn Llywelyn wrth siarad gyda'r wasg yn dilyn seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen yn y pafiliwn.

Eryri a'r Cyffiniau, Y Faenol 2005

Ystyried Eisteddfod Lerpwl 2007

Ynglŷn â'r gwahoddiad dadleuol i Lerpwl gwrthododd arweinwyr Eisteddfodol, gan gynnwys Llywydd y Llys, R Alun Evans, a rhoi unrhyw awgrym mewn cynhadledd i'r Wasg pa arweiniad fyddan nhw yn ei roi i'r Llys ddydd Gwener ond dywedodd Mr Roberts nad oedd ganddo yn bersonol "ddim problem" ynglŷn â mynd yno.

"Ac mi rydw i'n ffyddiog pe byddem ni'n mynd yno y gallem ni drefnu Steddfod yno," meddai.

Ond ychwanegodd fod cwestiwn faint o bobl o Gymru fyddai'n mynd yno!

Stomp awyr agored gyntaf erioed

Bydd yr hyn sy'n cael ei alw y Stomp awyr agored gyntaf erioed yn cael ei chynnal wythnos yr Eisteddfod eleni.

Mae'r Stomp yn cael ei disgrifio hefyd fel y dyddiad pwysicaf yn hanes castell Caernarfon ers i filwyr Madog ap Llywelyn geisio cipio'r Castell yn y drydedd ganrif ar ddeg!

Cysgodion argyfwng ariannol

Nid cymylau glaw yn unig oedd yn hofran uwchben seremoni agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Eryri nos Wener.

Yr oedd cysgodion amlwg argyfwng ariannol yr Eisteddfod hefyd gyda phob un o'r tri siaradwr yn taro post i bared rhyw gorff neu'i gilydd glywed.

Ar lwyfan pafiliwn a oedd yn llawnach na'i gwelwyd ers blynyddoedd ar gyfer seremoni a chyngerdd agoriadol yr oedd y dwylo allan am gefnogaeth ac arian.

Abertawe a'r Cylch 2006

Anerchiad Rowan Williams

Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol cafwyd pregeth gan Archesgob Caergaint.

Rowan Williams oedd yn traddodi pregeth neu anerchiad oedfa agoriadol yr Eisteddfod fore Sul.

Stori garu Prys a Rhodri Morgan

Y mae i ymweliad yr Eisteddfod ag Abertawe arwyddocâd emosiynol iawn i'r ddau frawd, Rhodri Morgan - prif weinidog y Cynulliad - a'r Athro Prys Morgan - yr ysgolhaig a llywydd Eisteddfod 2006.

Mewn Eisteddfod yn Abertawe y syrthiodd tad a mam y ddau ohonyn nhw mewn cariad - a hynny yn ystod rhagbrofion cystadleuaeth offerynnol.

"Erbyn y chweched perfformiad yr oedd fy mam yn berffaith sicr ei bod mewn cariad ag ef," meddai Prys Morgan wrth adrodd yr hanes.

Y Fedal Ddrama

Yr un bregeth oedd gan feirniaid y fedal ddrama eleni a rhai y llynedd - y dylai'r fedal ddrama sefyll ochr yn ochr â seremonïau'r gadair a'r goron ar brif lwyfan y pafiliwn.

Disgrifiad o’r llun,
Manon Steffan Ross enillodd fedal ddrama 2006

Ar hyn o bryd, mae seremoni y fedal ddrama yn cael ei chynnal yn theatr fach y maes, ac "nid yw hyn yn dderbyniol" yn ôl Branwen Cennard, un o'r beirniaid eleni. Dywedodd bod hyn yn cynrychioli ei barn hithau a'i chyd-feirniad Meic Povey oedd methu bod yn bresennol.

Sir y Fflint a'r Cyffiniau, Yr Wyddgrug 2007

Stori Dylwyth Teg: Stori'r Steddfod Fach Binc

Un tro amser maith, maith, yn ôl, tua deunaw mis yn ôl, yr oedd Y Steddfod Fach Binc yn drist a heb unman i fynd.

Disgrifiad o’r llun,
Eisteddfod yr Wyddgrug

"Does neb fy eisiau i a does gen i ddim cartref," meddai hi wrth eistedd yn ei dagrau ar ochr y ffordd y tu allan i blasty crand y Faenol lle'r oedd hi wedi bod yn mwynhau ei hun mewn parti mawr.

Ond er yr holl holi a chwilio doedd yna neb eisiau gwahodd Y Steddfod Fach Binc i barti mawr arall.

Ac yna, daeth Merswy, Yr Hen Flaidd Mawr Drwg, dros y clawdd yn wên i gyd a dweud; "Tyrd i fy Ninas i Steddfod Fach Binc ac fe gei di y parti mwyaf a gorau a welais ti erioed achos mae gen i ddigon o arian i dalu am bob math o bethau yn ein Dinas Fawr Ni.

Hywel Teifi Edwards yn beirniadu seremoni croesawu'r Cymry o dramor

Disgrifiwyd seremoni newydd i groesawu'r Cymry o dramor fel un oedd yn "gwneud y gorau o'r gwaethaf" ac yn "amddifad" o bob dychymyg.

Dywedodd Hywel Teifi Edwards - a oedd ymhlith y rhai a fu'n bennaf gyfrifol am adfer y seremoni i bafiliwn y Brifwyl ar ôl cael ei hepgor yn Abertawe y llynedd - nad oedd yn hapus o gwbl gyda'r modd y cafodd ei hadfer.

Caerdydd a'r Cylch 2008

Blwyddyn y merched

Disgrifiad o’r llun,
Hilma Lloyd Edwards: yr ail ferch i ennill y Gadair

Nid yn unig bu Cadeirio ond cadeiriwyd merch, Hilma Lloyd Edwards - yr ail yn unig yn holl hanes yr Eisteddfod.

Ar ben hynny, dywedodd y beirniaid y gellid fod wedi cadeirio o leiaf dri arall!, gryfed oedd y gystadleuaeth.

Carreg filltir fenywaidd arall yr Ŵyl oedd anrhydeddu Mererid Hopwood â'r Fedal Ryddiaith - a hynny ar ddydd pen-blwydd un o'i merched yn 18 oed.

Ddiwrnod ei anrhydeddu yr oedd hi yr unig ferch i ennill y Gadair - roedd Hilma eto i ddod - ond mae hi'n dal yr unig ferch i ennill y tair brif wobr lenyddol gan rannu'r anrhydedd honno gyda Gwilym R Jones a Tom Parri Jones, Tom Tŷ Pigyn.

Sgiam Orseddol?

Gydag aelodau'r Orsedd yn cael mynediad i'r Maes am bris gostyngol yr oedd yna gryn wneud syms rhwng y glas, gwyrdd a gwyn wedi seremoni'r Fedal Ryddiaith ddydd Mercher.

Gwnaeth 276 o Orseddogion gais am wisgoedd ond dim ond 145 a ymunodd â'r osgordd.

Mae'r 130 arall dan amheuaeth yn awr o fod wedi defnyddio'r Orsedd yn esgus i gael dod ar y maes yn rhatach.

"A oes twyllwyr?"

Gwerthu cleddyfau ar y maes

Disgrifiad o’r llun,
Roedd y cleddyfau ar faes Caerdydd 2008 "yn gwbl gyfreithiol"

Yn ôl y ferch ar stondin sy'n gwerthu atgynhyrchiadau o gledd mawr daufiniog Owain Glyndŵr ar y Maes mae un cynghorydd o Geredigion wedi awgrymu iddyn nhw y dylai pob aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol gael un o'r arfau hyn.

Maen nhw'n edrych yn drawiadol - ond faint fyddai eu cyfraniad i Lywodraeth Cymru'n Un mae'n anodd dweud.

Ychwanegodd mai 100 o'r cleddyfau addurniadol £195 a wnaed gyda dim ond 30 ar ôl - ond dim ond dau wedi eu gwerthu ar y maes hyd yn hyn. Un i'r cynghorydd a'r llall i wladgarwr brwd gyda thatŵ.

Meirion a'r Cyffiniau, Y Bala 2009

Cerdd gaeth yn ennill y Goron

Yr oedd y ffaith i gerdd yn y mesurau caeth ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth sy'n draddodiadol yn cael ei hystyried yn un y canu rhydd yn destun trafod ar y maes yn syth wedi seremoni'r coroni.

Disgrifiad o’r llun,
Ceri Wyn Jones oedd enillydd Coron y Bala 2009

Ond dywedodd y bardd buddugol na theimlai'n euog o gwbl iddo weld y bwlch yn rheolau'r gystadleuaeth a ganiataodd iddo gystadlu. Ennill gyda cherdd gaeth mewn cystadleuaeth sy'n draddodiadol yn cael ei hystyried yn un y canu rhydd.

Cwestiwn dramatig

Cwestiwn digon teg i'w ofyn:

Pa iws sydd yna mewn dyfarnu Medal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol heb sicrhau fod y ddrma sy'n deilwng ohoni yn cael ei pherfformio?

Enillodd Dyfed Edwads am yr eildro eleni - gan brofi ei bedigri.

Ond mae'r ddrama y cafodd fedal amdani y llynedd yn dal heb ei pherfformio.

Sefyllfa sy'n dipyn o ffars a dweud y lleiaf.

Cadair wag a chyfarchiad Dic yr Hendre

Yr oedd dau fwlch ar lwyfan Y Bala yn ystod seremoni'r Cadeirio ddoe.

Y bwlch yn y gadair - a'r bwlch a achoswyd gan absenoldeb yr Archdderwydd, Dic Jones, sydd yn rhy wael i fynychu ei ail Eisteddfod yn Archdderwydd.

Mi soniais i ychydig yn ôl gymaint mae'r Bala yn ei olygu i Dic ac er gwaethaf ei waeledd cyfansoddodd gywydd yn mynegi'r teimladau hynny ac fe'i darllenwyd dan deimlad gan Gofiadur yr Orsedd, y Prifardd John Gwilym Jones.

Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd, Glynebwy 2010

Y rheol Gymraeg: Lle i'r Saesneg?

Codwyd bwgan rheol iaith ... wrth i'r hanesydd Dr Dai Smith droi i'r Saesneg i gwblhau darlith a draddododd a hynny'n annog rhai i holi a yw'r Rheol Gymraeg yn rhywbeth rhy gaethiwus mewn ardal fel hon gan hudo Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, i ddweud er na fyddai'n caniatáu i'r Eisteddfod droi'n ddwyieithog ei bod hi efallai yn amser ailystyried y mater hwn unwaith eto.

Mae rhai yn gweld yn barod sylw o'r fath yn gilagor llifddorau distryw ac fe fydd yna wylio mawr beth fydd yn digwydd nesaf.

Yn enwedig o gofio bod y digwyddiad cyntaf yn y Pafiliwn Pinc eleni yn basiant dwyieithog ar y nos Iau - ond nid yn un o weithgareddau swyddogol yr Eisteddfod - a'r digwyddiad olaf yn gyngerdd Saesneg gyda Will Young - eto nid yn un o weithgareddau swyddogol yr Eisteddfod fel y prysurwyd i ddweud mewn cyfarfod diweddar o Gyngor yr Eisteddfod.

Ai yn araf deg fel hyn ac wrth gloi ambell i ddarlith yn Saesneg y dwyieithir y Brifwyl?

Ara deg mae catchee hen.

Diau, bod gan Seithenyn wylwyr ar y tŵr y tro hwn.

Tocynnau'r Sul am ddim

Profwyd heddiw pa mor hawdd yw hi i werthu rhywbeth i bobl - trwy ei roi am ddim.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd y cynllun i roi tocynnau am ddim ar y Sul yn llwyddiant yng Nglynebwy

Rhannodd Ein Gweinidog Diwylliant Alun Ffred Jones ugain mil o docynnau Eisteddfod dydd Sul am ddim rhwng trigolion Blaenau Gwent - a dyma nhw'n llifo i mewn drwy'r giatiau wrth eu miloedd.

Wrth eu hugain mil mewn gwirionedd gyda 25,097 (mam sengl efo chwech o blant oedd y 7 yna medda nhw i mi) yn ymweld â'r Maes cyn stop tap ddiwedd pnawn.

Nawr mi fedrwn ni ddehongli ffigurau fel leiciwn ni ac fe allai un dehongliad gynnig mai dim ond 5,097 fyddai wedi ymweld â'r Eisteddfod oni bai am haelioni Alun Ffred â phwrs y wlad.

Wrecsam 2011

Cymharu Rhys Iorwerth â Dafydd ap Gwilym

Bydd yn rhaid disgwyl rhai blynyddoedd cyn y byddwn yn gwybod yn iawn ai proffwyd ynteu dyn a aeth dros ben llestri yw Emyr Lewis.

Disgrifiad o’r llun,
Rhys Iorwerth oedd enillydd Cadair 2011

Disgrifiodd yn ei feirniadaeth y pnawn yma y bardd cadeiriol fel "Dafydd ap Gwilym wedi atgyfodi yng Nghymru 2011".

Mae'r bardd ei hun, Rhys Iorwerth, er mor ifanc ydi o, i'w edmygu am fod ddigon call i ymwrthod â'r disgrifiad.

"Fydda i ddim yn mynd o gwmpas yn galw fy hun yn Ail Dafydd ap Gwilym," medda fo.

Seremoni'r Fedal Ddrama

Fel ddoe, yr oedd heddiw eto yn ddiwrnod hanesyddol arall.

Na, nid Mrs Archdderwydd enillodd y Fedal Ddrama fel ag yr oedd rhai yn sibrwd o gwmpas y maes yn y bore.

Digwyddodd rhywbeth mwy hanesyddol na hynny hyd yn oed - dywedodd enillydd y Fedal Ddrama ei bod yn fodlon â'r seremoni a drefnwyd i'w anrhydeddu.

Yn y gorffennol bu'r seremoni hon dan lach sawl un am fod yn llai rhwysgfawr ac urddasol na'r prif seremonïau eraill.

Ond yr oedd Rhian Staples, yr enillydd, ar ben ei digon.

"Does dim angen i'r Orsedd fod yno mae'r Fedal yn sefyll dros ei hunan," medda hi ar ôl dod oddi ar y llwyfan.

Cofio'r Gadair Ddu gyntaf

Yr ydym i gyd yn cofio am Eisteddfod Cadair Ddu Hedd Wyn ym Mhenbedw 1917. Ond nid dyna'r unig Eisteddfod Cadair Ddu.

Dyna hanes Eisteddfod Wrecsam 1876 - yr Eisteddfod Cadair Ddu gyntaf.

Y bardd buddugol oedd Taliesin o Eifion a bu ef farw yn 55 oed y noson yr anfonwyd ei gerdd i'r gystadleuaeth.

Y chwedl yw mai ei eiriau olaf ar ei wely angau oedd, "Ydyw'r awdl wedi ei danfon yn saff?"

Bro Morgannwg, Llandŵ 2012

Galar ar ôl ei dad i Brifardd Cadeiriol

Disgrifiad o’r llun,
Dylan Iorwerth a'r Archdderwydd

Ym mis Chwefror y bu farw ei dad ac wedi chwe diwrnod o gyfansoddi dwys dywedodd Dylan Iorwerth mai dim ond cael a chael fu hi cyflwyno'r gwaith cyn y dyddiad cau a hynny'n golygu gyrru mewn car i swyddfa'r Eisteddfod yn Yr Wyddgrug.

Dywedodd yr ystyriai yn ddyletswydd cystadlu gan mai'r testun â'i sbardunodd i sgrifennu yn y lle cyntaf.

"Achos oni bai am y testun fyddwn i ddim wedi 'sgwennu."

Eisteddfod ddi-lol

Digon di-Lol ydi'r Eisteddfod hon hefyd parthed y cylchgrawn o'r enw hwnnw gyda fawr neb yn siarad amdano a fawr neb wedi ei gythruddo a'i frifo gan ei gynnwys hyd y gwelaf i.

Chwithig gweld yr hen waldiwr a wylltiodd y Cynan trystfawr hyd enllib mor ddiniwed erbyn hyn.

A chyda chymaint o wallau iaith a chamdreiglo ynddo fo hefyd - nid bod rhywun yn disgwyl safon Medal Ryddiaith mewn cyhoeddiad o'r fath - ond wir ichi . . .

Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013

Cofio cyn eisteddfodau Dinbych

"Ydi'ch car chi'n lân?" oedd cwestiwn yr arwyddion wrth i eisteddfodwyr ddynesu at Faes y Genedlaethol ar gyrion Dinbych yn 2001.

Gyda chlwy' traed a'r genau yn gwmwl dros y wlad nid oedd mynediad i'r meysydd parcio i geir budron gydag ôl mwd a llaid arnyn nhw.

Ar ben hynny, yr oedd yn rhaid gyrru trwy bwll dwy droedfedd o ddisinffectant!

Oherwydd y rheolau cafodd un bardd, Twm Morys, ei brocio i gyfansoddi cerdd ddeifiol i'r perwyl fod rhwydd hynt i faeddu'r iaith ar y Maes ac anwybyddu'r rheol Gymraeg - cyn belled bod eich car chi'n lân.

Adolygu Rhwng y Llinellau, cyfrol o farddoniaeth Christine James, yr Archdderwydd

Mae Christine, sydd wedi cychwyn ei dyletswyddau yn seremoni'r Orsedd fore Llun yr Eisteddfod ac yn llywio'r Coroni ar lwyfan y pafiliwn yn y pnawn, hefyd yn cyhoeddi ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth.

Cyfrol hardd sy'n cynnwys y cerddi a enillodd gymaint o ganmoliaeth pan enillodd Christine y Goron yn Eisteddfod Eryri yn 2005.

Cerddi a ddisgrifwyd fel rhai "ecffrastig" oedd rhai Eryri ....

... Gall y cyfan swnio - ac, yn wir, edrych - yn uchel-ael iawn ond wedi ei choroni, prysurodd Christine i ddweud am ei gwaith: "Er bod yr ysgogiad i'r cerddi efallai yn uchel-ael fe wêl pobl, pan fyddan nhw yn eu darllen, mai profiadau cyffredin pobl gyffredin yw llawer iawn o'r profiadau yn y cerddi.

'Mwy na ddigon' i blant yn y Brifwyl

Disgrifiad o’r llun,
Yn ei Eisteddfod olaf, a'i erthygl olaf i wefan y BBC, mwynhaodd Glyn Evans gwmni ei wyres ar y maes

Dyletswydd dydd Iau yn Eisteddfod Dinbych oedd hebrwng wyres o gwmpas y Maes.

Waeth cyfaddef ddim, yr oedd rhywun braidd yn bryderus o hyd a lled y pleserau ar gyfer rhywun dan chwech oed ym Mhencadlys Diwylliant a Phwysigrwydd y Genedl gan ofni na fyddai yna fawr i'w diddori rhwng y peintiad wyneb cyntaf a'r trydydd hufen iâ.

A dim, mewn gwirionedd, fod Rhaglen y Dydd nag unrhyw daflen wybodaeth arall wedi tawelu'r ofnau hynny.

Ond, erbyn gweld, yr oedd gan y crochan diwylliant fwy na digon i'w gynnig, gyda Sioe Cyw ar ben y rhestr.

Fe allwch ddarllen nifer o hen ddarnau blog gan Glyn Evans o Eisteddfodau 2009, 2010 a 2011 fan hyn a gallwch ddarllen mwy amddarpariaeth y BBC mewn hen eisteddfodau ar ein gwefan hanes (sylwch mai hen safleoedd ydi'r rhain ac nad ydyn nhw'n cael eu diweddaru bellach).

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol