Glasgow: Arestio athletwr
- Published
Mae aelod o dîm athletau Awstralia wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad ar aelod o Dîm Cymru.
Mi fydd Francois Etoundi, 29, yn ymddangos gerbron llys yn Glasgow yn hwyrach.
Y codwr pwysau Gareth Evans, 28 oedd dioddefwr honedig yr ymosodiad.
Fe wnaeth yr ymosodiad honedig ddigwydd ym mhentref yr athletwyr am 06:00 fore Mercher.
Dywedodd llefarydd ar ran Tîm Cymru: "Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad dros nos oedd yn ymwneud ag aelod o Dîm Cymru ac rydym yn cydweithio gydag ymchwiliad heddlu'r Alban ar hyn o bryd.
"Ni fyddai'n addas i ni wneud sylw pellach tra mae ffeithiau'r achos yn dal i gael eu sefydlu."
Mae pentre'r athletwyr ger Maes Emirates a Celtic Park, lle cafodd y seremoni agoriadol ei chynnal.
Rhybudd am ymddygiad
Mae'r BBC wedi gweld copi o lythyr gafodd ei yrru i'w athletwyr yn dilyn y digwyddiad, sy'n eu rhybuddio i fod ar eu hymddygiad gorau am weddill y gemau.
Mae'r neges, gafodd ei harwyddo gan bennaeth y tîm Brian Davies, yn dweud y byddai'n "amharchus" i unrhyw un "adael eu hunain, eu cyd-athletwyr a'u teuluoedd i lawr drwy gamymddwyn mewn unrhyw ffordd yma yn Glasgow".
Aeth y llythyr ymlaen i ddweud: "wnewch chi os gwelwch yn dda sicrhau fod pawb yn eich tîm yn cadw at y safon dilychwin o ymddygiad sy'n rhan o'r cod ymddygiad One Team Wales.
"Mae'r CGF, Heddlu'r Alban a Glasgow 2014 wedi ail-bwysleisio y gwnawn nhw gymryd agwedd o ddim goddefgarwch tuag at unrhyw gamymddwyn."
Mi gafodd yr e-bost ei yrru i'r athletwyr gan Scott Simpson, yr hyfforddwr perfformiad cenedlaethol, sy'n dweud: "Rwy'n ymddiried y byddwch chi'n anrhydeddu'r cytundeb hwn ac yn cynnal eich cyfrifoldebau i chi'ch hunain ac i Gymru.
"A wnewch chi os gwelwch yn dda gadw eich gilydd at y cytundeb yma hefyd - un tîm ydym ni ac mae gennym ni gyfrifoldeb tuag at ein gilydd."