Gwaith Bedwyr Williams i gofio'r Rhyfel Byd Cyntaf
- Published
Bydd gwaith o'r enw Traw, gan yr artist Bedwyr Williams, yn rhan o ddigwyddiad ar draws y DU i nodi dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ar 4 Awst.
Bydd gosodiad fideo a sain Mr Williams yn cael ei gyflwyno ar safle Porth Coffa Gogledd Cymru, Bangor, lle ceir enwau mwy na 8,500 o filwyr, morwyr ac awyrenwyr o siroedd Gogledd Cymru, a gwympodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Y Porth Coffa fydd ar ganol y llwyfan o flaen delweddau a deflir oddi ar y Porth hyd at wal Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi newydd Prifysgol Bangor sy'n ei wynebu.
Bedwyr Williams fydd artist preswyl cyntaf y ganolfan.
Mae Mr Williams wedi defnyddio lluniau o bersonél lleol, yn filwrol ac yn sifil a gafwyd yn archif Cymru 1914 ond heb gynnwys unrhyw lifrai na chyfeiriadau at reng.
Dywedodd Mr Williams: "Rydyn ni'n gyfarwydd iawn gyda'r 'uniform' Rhyfel Byd Cyntaf trwy wylio dramâu a hyd yn oed comedïau.
"Wrth ganolbwyntio ar y wyneb mae'n bosib, dwi'n meddwl, i'r gwyliwr cael ryw gysylltiad gyda'r bobl yna.
"Hwyrach bod rhai ohonyn nhw wedi cael eu lladd neu eu hanafu ac roeddwn i am drio sbïo mewn llygaid rhywun nath brofi'r peth erchyll yma."
Hefyd bydd trac sain atseiniol, sy'n troi o gylch sŵn tician cloc wedi'i arafu, yn rhan o'r gwaith, a bydd y sŵn i'w deimlo, yn ogystal â'i glywed, ar draws y ddinas.
Mae'r digwyddiad yn rnan o ymgyrch Diffodd y Goleuadau sydd yn wahoddiad i bawb yn y DU ddiffodd eu goleuadau rhwng 10-11pm ar wahân i un golau neu un gannwyll.
Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y digwyddiad o sylw enwog a wnaed ar y noson cyn i'r rhyfel ddechrau gan yr Ysgrifennydd Tramor ar y pryd Syr Edward Grey: "Mae'r lampau'n cael eu diffodd ar draws Ewrop; ni fyddwn yn eu gweld yn goleuo eto yn ystod ein hoes ni".
Mae Mr Williams yn un o bedwar artist rhyngwladol blaenllaw a gomisiynwyd gan 14-18NOW, sef y rhaglen ddiwylliannol ar gyfer dathliadau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, i greu gweithiau celfyddydol coffaol cyhoeddus.
Rhwng 22:00 a 23:00 led led y DU mae disgwyl y bydd cartrefi, busnesau yn ogystal ag adeiladau cyhoeddus yn diffodd eu golau, gan adael un gannwyll neu un golau yn unig yn cynnau.
Straeon perthnasol
- Published
- 31 Gorffennaf 2014
- Published
- 29 Ionawr 2014
- Published
- 2 Mai 2013