Perygl o niwed i blant sydd yn dod i Gymru i geisio lloches
- Cyhoeddwyd

Mae plant sydd yn ceisio lloches mewn perygl o niwed go iawn pan maen nhw'n cyrraedd Cymru heb riant neu warchodwr, meddai Cyngor Ffoaduriaid Cymru.
Mae'r mudiad wedi dweud wrth BBC Cymru nad oes digon o gefnogaeth ar gael i'w hamddiffyn nhw.
Mae rhai plant ar ben eu hunain wedi eu rhoi mewn llety gydag oedolion dieithr sydd hefyd yn ceisio lloches.
Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud bod staff arbenigol sydd yn gweithio gyda'r plant yma.
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf amcangyfrif bod dros 150 o blant wedi dod i Gymru heb riant neu warchodwr.
Diffyg gwaith papur
Mae'r Swyddfa Gartref yn asesu oedran bob person ifanc sydd yn cyrraedd.
Mi ddylai'r system ofal fod yn edrych ar ôl person sydd yn ieuengach na 18 oed.
Ond yn aml does gan y bobl ifanc ddim dogfennau i brofi eu hoed sydd yn medru golygu eu bod yn cael eu rhoi yn y categori oedolion.
Dywedodd swyddog polisi Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Hannah Wharf:
"Rydyn ni yn gwybod bod plant sydd yn cael eu hasesu yn anghywir yn aml yn cael eu hecsbloitio neu eu masnachu ac maen nhw mewn mwy o berygl o gael eu hanafu...ac mi fyddan nhw hefyd mewn perygl o gamdriniaeth a phroblemau iechyd meddwl."
Llywodraeth Prydain sydd yn gyfrifol am wneud yr asesiadau cychwynnol. Ond mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i wneud yn siwr bod bob plentyn yn cael eu trin yn gyfartal.
Maen nhw fod darparu cefnogaeth a rhywun i gynrychioli lles y plentyn.
Cymru "ar ei hôl hi"
Yn ol Cyngor Ffoaduriaid Cymru dyw Llywodraeth Cymru ddim yn dilyn erthygl 22 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn sydd yn dweud y dylai plant sydd yn ceisio lloches gael eu "hamddiffyn rhag trais, rhag cael eu hecsbloitio a rhag cael eu gorfodi i weithio."
Maen nhw'n dweud bod Cymru "ar ei hôl hi" i gymharu gyda gweddill Prydain o ran y gefnogaeth sydd yn cael ei gynnig i bobl ifanc sydd yn dod i'r wlad.
Mi fydd ceisio dal i fyny yn sialens enfawr am nad oes digon o arian yn ei le ac erbyn hyn dyw'r gwasanaethau oedd yn hybu arfer da ddim yn bodoli.
Roedd y Swyddfa Gartref yn rhoi arian i Gyngor Ffoaduriaid Cymru i ddarparu gofal ac eiriolaeth i blant oedd yn ceisio lloches ar ben eu hunain.
Ond mi ddaeth y cytundeb hwnnw i ben ym mis Ebrill 2014. Mae'r cyngor yn dweud bod plant sydd yn ceisio lloches nawr ddim wedi eu hamddiffyn.
Mae'r Comisiynydd Plant ar gyfer Cymru, Keith Towler hefyd wedi codi pryderon am y diffyg gwasanaeth.
"Dw i'n meddwl efallai ein bod ni ddim wedi bod yn talu digon o sylw ac mi ydyn ni yn gwybod bod yr hyn sydd yn digwydd yn Syria a llefydd eraill yn y byd yn golygu y bydd yna fwy o geiswyr lloches.
"Dyma'r amser i ni feddwl am y gefnogaeth rydyn ni yn darparu a'r hyn sydd angen yw cytundeb da rhwng Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru er mwyn penderfynu sut ydyn ni yn defnyddio ein hadnoddau i wneud yn siwr bod 'na gefnogaeth ar gael i'r bobl ifanc yma."
Gweithwyr arbennigol ar gael
Dywedodd llefarydd o'r Swyddfa Gartref: "Staff arbenigol wedi eu hyfforddi sydd yn delio gyda phlant sydd yn ceisio lloches ac ar ben eu hunain ac mae'r plant yn cael eu cyfeirio at weithiwyr cymdeithasol cyn gynted ag sy'n bosib.
"Mae asesiadau oedran yn allweddol er mwyn sicrhau bod plant a rhieni yn cael eu trin mewn ffordd briodol oherwydd yn anffodus mae oedolion yn honni eu bod yn blant er mwyn medru cael cefnogaeth arbenigol."
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru:
"Mae ein Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid yn datgan bod ein hymrwymiadau polisi ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru'r un mor gryf ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid ac unrhyw bolisi cyhoeddus arall yng Nghymru."
Dywed y datganiad bod cyfarwyddyd yn ei le ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda phlant sydd yn ceisio lloches ac yn cyrraedd y wlad ar ben eu hunain.
Yr egwyddor yw bod rhaid rhoi lles y plentyn yn gyntaf bob tro a bod y ffaith bod y plentyn yn ffoadur yn ystyriaeth eilradd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2011
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2011