BBC Cymru Fyw

Holi ymgeiswyr Dysgwr y Flwyddyn

Published
image captionSusan Carey, Holly Cross, Nigel Annett a Joella Price sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni

Ddydd Mercher Awst 6, bydd enw Dysgwr y Flwyddyn 2014 yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.

Mae 'na bedwar yn y rownd derfynol ac mae BBC Cymru wedi bod yn eu holi.

NIGEL ANNETT

media captionDysgwr y Flwyddyn: Nigel Annett

Daw Nigel Annett o Ogledd Iwerddon yn wreiddiol, ond mae'n byw erbyn hyn yn Aberysgir, rhwng Aberhonddu a Phontsenni.

SUSAN CAREY

media captionDysgwr y Flwyddyn: Susan Carey

O Lundain y daw Susan Carey yn wreiddiol, ond mae'n byw yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, ers bron i 30 mlynedd bellach.

HOLLY CROSS

media captionDysgwr y Flwyddyn:Holly Cross

Ganed Holly Cross yng Nghaerfyrddin, ond symudodd y teulu i Wlad yr Haf pan oedd hi'n ddwy oed, a chafodd ei magu a'i haddysgu yn Lloegr.

JOELLA PRICE

media captionDysgwr y Flwyddyn: Joella Price

O Bort Talbot y daw Joella Price yn wreiddiol, ac ar ôl treulio blynyddoedd yn byw yn America, Awstralia, Lloegr a Malta, dychwelodd i Gymru ddwy flynedd yn ôl.

Am fwy o'r Brifwyl, ewch i'n gwefan Eisteddfod.