Morgannwg yn colli i Sir Gaerhirfryn
- Published
Ar ôl cael ei gohirio ddydd Gwener oherwydd y glaw, cafodd gêm Morgannwg yn rownd go-gyn derfynol y gystadleuaeth T20 ei chynnal ddydd Sadwrn.
Sir Gaerhirfryn gafodd y fuddugoliaeth yn Old Trafford ar ôl sgorio 137 o rediadau am 8, gyda Graham Wagg a Michael Hogan yn cipio tair wiced yr un.
Fe gafodd Jaques Rudolph anaf i'w ysgwydd yn maesu ac ni wnaeth agor y batio wrth i Forgannwg geisio sgorio 138 i ennill y gêm.
Ar y diwedd, roedd angen dau rediad arall ar Forgannwg, a orffennodd 136 am 7.
Straeon perthnasol
- Published
- 25 Gorffennaf 2014