Ail agor gerddi Plas Tan y Bwlch wedi stormydd
- Published
Chwe mis ar ôl i wyntoedd 100 milltir yr awr ysgubo trwy gerddi hanesyddol Plas Tan y Bwlch yng Ngwynedd, mae'r gerddi yn ail agor.
Cafodd ugeiniau o goed eu dymchwel ym mis Chwefror, a chafodd planhigion prin eu malu.
Ers hynny, cafwyd gwaith adfer sy'n cynnwys bron i 2,000 o blanhigion a choed newydd.
Mae penaethiaid Parc Cenedlaethol Eryri yn y pen draw am sicrhau bod y gerddi yn cael eu hadfer i'w hen ogoniant,
Yn ogystal â bod yn rhestredig Gradd II, mae'r ystâd ym Mhlas Tan y Bwlch ger Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd hefyd wedi ei gofrestru yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Dywedodd y prif arddwr Chris Marshall bod y storm ar Ddydd Sant Ffolant wedi gwneud cymaint o ddifrod y bu'n rhaid cau'r gerddi i'r cyhoedd am resymau diogelwch.
Meddai: "Cafodd llwybrau eu dinistrio gan wreiddiau yr hen goed godidog wrth syrthio i'r llawr a chafodd nifer helaeth o gynefinoedd arbennig eu dinistrio."
Bu teulu'r Oakleys - un o'r pedwar prif deulu oedd yn berchen y chwareli yn y gogledd orllewin - yn byw yn y plas am flynyddoedd lawer, gan olynu'r teuluoedd Evans a Griffith a adeiladodd stad fawr yn yr ardal yn yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif.
Plas Tan y Bwlch yw Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol Parc Cenedlaethol Eryri.