Cyhoeddi enillwyr y prif wobrau celf
- Published
Mewn seremoni ar lwyfan y pafiliwn brynhawn Sadwrn, mae enillwyr prif wobrau adran Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi eu gwobrwyo.
Sean Edwards sydd wedi ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain am ddarn fideo.
Mae'r Fedal Aur am Grefft a Dylunio eleni yn mynd i Susan Phillips am waith porslen.
Cwmni Loyn and Co o Gaerdydd gafodd y Fedal Bensaernïaeth am dŷ cyfeillgar-i'r-amgylchedd mewn llecyn ym Mhenrhyn Gŵyr.
Fe alwodd y beirniaid Stormy Castle yn "ymateb pensaernïol anhygoel i'r briff a'r lleoliad".
Mae gwaith y tri buddugol i'w weld yn y Lle Celf ar y maes gydol wythnos yr eisteddfod.
Am fwy o wybodaeth am y Brifwyl, ewch i'n gwefan eisteddfod arbennig.