Trywanu: Arestio llanc 16 oed
- Published
Mae llanc 16 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn y Coed Duon nos Wener.
Cafodd dau ddyn lleol eu trywanu yn y digwyddiad am 23:15 ar Ffordd Bryn ac Apollo Way, ac mae'r ddau'n derbyn triniaeth yn yr ysbyty am eu hanafiadau.
Dylai unrhyw dystion gysylltu â'r heddlu ar 101.