Beth yw eich hoff glawr albwm?

  • Cyhoeddwyd
Arddangosfa o rai o hoff gloriau'r genedl
Disgrifiad o’r llun,
Arddangosfa o rai o hoff gloriau'r genedl

Dyma gwestiwn efallai nad ydych wedi clywed o'r blaen, ond y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn gallu ei ateb yn syth: beth yw eich hoff glawr albwm?

Mae pawb wedi hen arfer sôn a dadlau am gynnwys albymau cerddorol, ond prin iawn fu trafod dwys ynghylch y gwaith celf sydd ynghlwm â nhw. Tan rwan.

Cafodd yr arlunydd a'r cerddor Rhys Aneurin ei gomisiynu gan yr Eisteddfod i greu arddangosfa o rai o hoff gloriau'r genedl, ac mae canlyniad ei waith i'w weld ar y maes eleni.

"Gesh i'n syfrdanu efo pa mor frwdfrydig oedd pobl am y syniad, a dyna un o'r pethau ddaru mi fwynhau fwya' - holi pobl am eu hoff goria nhw," meddai Rhys.

"Roedd rhesymau pobl dros eu dewisiadau yn amrywio ac roedd hynny'n ddiddorol iawn i mi."

Cloriau fel celf

Ac 'amrywiol' yw'r gair perffaith i ddisgrifio'r wledd o gloriau sydd i'w gweld yn y babell ym mhen pella'r maes.

O'r prydferth i'r annirnadwy i'r cyfarwydd ... ond mae hyd yn oed y rhai mae pawb wedi ei weld droeon yn tynnu sylw rhywun mewn ffordd wahanol yma, gan eu bod yn cael ei gyflwyno mewn cyd-destun gwahanol i'r arfer.

Maen nhw'n cael eu cyflwyno fel darnau o gelf gyda thraciau o'r albymau perthnasol yn bloeddio arnoch fel cyfeiliant.

Felly beth mae Rhys yn feddwl o'r dewisiadau?

"Mae yna gwpl o rhai annisgwyl yna, ond eto dwi'n meddwl fod hynna'n beth da.

"Ro'n i'n wyliadwrus i beidio ei wneud o'n rhywbeth rhy amlwg felly dwi'n falch o'r dewisiadau yma - mae 'na lot o bethau di'r rhan fwya o bobl ddim yn cofio neu heb weld o'r blaen, er enghraifft Carreg Aonair...

"Fe wnaethon nhw ryddhau albwm o'r enw CA2 gyda chlawr hollol bizzare".

Dywedodd iddo ddod o hyd iddo trwy hap a damwain wrth fynd trwy bentwr llychlyd o recordiau finyl yn y Rhath "a welish i'r clawr hollol wallgo 'ma a phigo fo fyny a ffeindio ei fod o'n record Gymraeg."

Ac yn wir, mae o'n glawr a hanner.

Gorffennol yn gormesu

Disgrifiad o’r llun,
Rhys â'i hoff glawr

Ymysg y bobl sydd wedi cyfrannu at yr arddangosfa mae Nic Parry (Shampw gan Bando), Dyl Mei (Ailddechra gan Bran) a Hefin Wyn (Tacsi i'r Tywyllwch gan Geraint Jarman).

Mae'r cloriau oll yn cael eu harddangos ar gynfas fawr ac oddi tan bob un mae'r cyfranwr yn cael cyfle i esbonio'n union pam fod y clawr yn un gwych.

Felly beth oedd dewis y curadur?

"Fy hoff glawr Cymraeg ydi Welsh Tourist Bored gan Traddodiad Ofnus," meddai Rhys.

"Mae o'n albwm sy'n codi cwestiyna mawr, mae'r testun yn eitha' o ddifri. Mae o ynglyn â sut mae'n hanes a'n traddodiad bron yn gormesu diwylliant y presennol ac mae enw'r albwm am sut ma' pobl yn dod i ymweld â Chymru a'r oll ma' nhw'n weld ydi yr un hen gliches a dydyn nhw ddim yn gweld y diwylliant sydd ganddo ni rwan.

"Mae o i gyd yn Welsh ladies a defaid a cenin pedr... mi gafodd y record yma ei ryddhau yn 1987 a dwi'n meddwl be sy'n anhygoel am yr albwm yna ydi fod o dal yn eitha perthnasol rwan.

"Felly tra mae'r testun yn eitha o ddifri, mae'r clawr yn dod ag ychydig bach mwy o hiwmor mewn i'r holl beth.

"Be ydi o ydi ymwelwr canol oed yn cysgu yn ei deckchair yn gwisgo crys-t sy'n dweud Llanfairpwllgwyngychgogerychwyndrobwyllandiseilogogogoch... dwi'n meddwl fod hynny yn cyfleu yr union bwynt yna jest yn berffaith ac fel rhywun sydd wedi tyfu yn Llanfairpwll alla i ddeud yn sicr fod Pringles - er fy mod yn hoff o ymweld â'r lle - yn canolbwyntio lot ar y gorffennol.

"Dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig meddwl sut ma Cymru yn ymddangos i bobl sy'n ymweld, mae'n bwysig bod nhw'n gallu gweld diwylliant cyfoes ynghyd â'r hen ddiwylliannau."