Martin Evans wedi ei arestio yn Ne Affrica

Martin Evans Image copyright PA
Image caption Roedd Martin Evans, a garcharwyd am 21 mlynedd yn 2006, wedi'i ryddhau ar drwydded dros dro yn 2011

Mae dyn a fethodd â dychwelyd i'r carchar yn 2011 ar ôl cael ei ryddhau ar drwydded wedi cael ei arestio yn Ne Affrica.

Cadarnhaodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol fod Martin Evans, o Abertawe, wedi cael ei ddal ddydd Sadwrn.

Cafodd ei ddedfrydu i 21 mlynedd o garchar yn 2006 am droseddau'n ymwneud â chyffuriau ac arian, a phedair blynedd am dwyll a olygodd fod dros 100 o fuddsoddwyr wedi colli £900,000.

Fe sefydlodd Evans fusnes magu estrys yn 1995 ond aeth i'r wal gan adael buddsoddwyr heb ddim.

Diflannodd yn Awst 2011 ar ôl methu dychwelyd i garchar yn Wiltshire ar ôl cael ei ryddhau ar drwydded am benwythnos.

Straeon perthnasol