Adleoli carafanau mewn parc gwyliau ym Mro Morgannwg
- Published
Mae carafanau mewn parc gwyliau ym Mro Morgannwg yn cael eu symud unwaith yn rhagor oherwydd pryder am dirlithriad.
Yn 2011 cafod nifer o garafanau ym mharc gwyliau Porthceri eu gadael wrth ymyl dibyn yn dilyn tirlithriad, gyda rhan o'r clogwyn yn disgyn i'r môr.
Yn dilyn y digwyddiad cafodd 18 o garafanau eu symud.
Nawr bydd yn rhaid i 12 o'r carafanau gael eu hadleoli eto ar ôl rhybudd gan ddaearegwr.
Dywedodd perchennog y safle, Sally Edwards, mae'n bosib nad oes yna broblem "ond gallwn ni ddim cymryd unrhyw risg,"
Fe wnaeth tua 34,000 tunnell o gerrig gwympo i'r traeth yn 2011 wrth i ran o'r clogwyn gwympo.
Ar y pryd fe adawyd ambell i garafán yn rhannol dros ymyl y clogwyn.
Er hynny mae daearegwyr wedi bod yn monitro'r ardal yn gyson.
Dywedodd Ms Edwards fod daearegwr wedi canfod symudiad o 15 mm(0.6 modfedd) ar ei ymweliad diweddaraf.
"Does dim symudiad wedi bod ers dwy flynedd, mae'n bosib y byddai'n 20 mlynedd arall, ond doeddwn ddim am gymryd y risg, felly rydym yn adleoli'r carafanau."
Bydd y gwaith yna yn dechrau ddydd Llun.
Dywedodd Ms Edwards, cyd berchennog y safle, fod tua £1 miliwn wedi ei wario ar y gwaith monitro.
Ychwanegodd gyda'r adleoli diweddar eu bod wedi colli tua 25% o'r safle gwyliau.
Straeon perthnasol
- Published
- 2 Tachwedd 2011
- Published
- 1 Tachwedd 2011