Urddo D. Hugh Thomas yn Gymrawd
- Cyhoeddwyd

Mae D. Hugh Thomas wedi cael ei urddo'n Gymrawd yr Eisteddfod mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn yn Sir Gâr.
Yn enw cyfarwydd i garedigion yr Eisteddfod ers blynyddoedd, bu'n gwasanaethu fel Llywydd y Llys a chadeirydd Cyngor yr Eisteddfod.
Roedd yn brif weithredwr ar Gyngor Bro Morgannwg, cyn iddo ymddeol yn gynnar er mwyn gweithio gyda nifer o sefydliadau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'n cael ei urddo'n Gymrawd yn dilyn marwolaeth James Nicholas y llynedd.
'Chwerw-felys'
Bu Cymru Fyw yn sgwrsio gyda D. Hugh Thomas cyn y seremoni.
Er ei fod yn falch o gael yr anrhydedd, mae'n dweud bod yr amgylchiadau yn rhoi tinc chwerw-felys i'r achlysur.
"Mae'n deimlad rhyfedd achos ma'r Gymrodoriaeth yn beth arbennig iawn. Dim ond pum person all gael Cymrodoriaeth ar un adeg.
"Dw i'n ymwybodol mai llanw 'sgidie James Nicholas ydw i - fe gododd sedd wag achos marwolaeth James.
"Felly rhyw deimladau cymysg iawn ar y funud, ac eto'n ymfalchïo fod cyngor yr Eisteddfod wedi penderfynu trosglwyddo'r awenau i fi."
Fe ymunodd D. Hugh Thomas â Chyngor yr Eisteddfod yn 1965, ac mae wedi bod yn rhan o'r cyngor byth ers hynny.
Flwyddyn nesa', felly, fe fydd yn dathlu 50 mlynedd o fod yn rhan o'r cyngor.
"Mae'n goron ar gyfnod hir o fod yn rhan o'r gyfundrefn eisteddfodol," meddai.