Cip nôl ar ddydd Mawrth yn y Brifwyl
- Cyhoeddwyd

Lleucu Roberts, o Rostryfan, ger Caernarfon, enillodd Wobr Goffa Daniel Owen ar bedwerydd diwrnod y cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.
Mae ei nofel, Rhwng Edafedd, yn adrodd hanes Eifion.
Ar gychwyn y nofel mae Eifion yn bygwth neidio oddi ar Bont Borth, er mwyn dianc o'i fywyd. Teimla bod popeth yn fethiant, ei fusnes, ei berthynas â'i deulu a'i briodas.
Mae'r nofel yn adrodd ei hanes wrth iddo geisio delio gyda'r problemau ac ailafael yn ei fywyd.
Yn ôl y beirniaid, roedd safon y gystadleuaeth yn gyffredinol yn "amrywiol", ond roedd gwaith y llenor buddugol, dan y ffugenw 'Botwm Crys', yn "nofel rymus a darllenadwy iawn".
Presenoldeb dydd Mawrth
Yn heulwen braf Llanelli, fe ddaeth 'na 15,856 i'r Maes ddydd Mawrth.
Ond ar ddechrau'r diwrnod, daeth i'r amlwg fod lladrad wedi bod ar y Maes, gyda £6,000 yn cael ei ddwyn.
Cadarnhaodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.
Ymysg cystadlaethau'r Pafiliwn, roedd unawdau a'r llefaru i rai 16-19 oed, a'r Côr Pensiynwyr dros 60 oed a dros 20 mewn nifer.
Roedd 'na hefyd sylw i'r cystadlaethau Dawnsio Disgo ar y prif lwyfan.
Mae holl ganlyniadau'r cystadlu ar ein tudalen ganlyniadau arbennig.
O gwmpas y maes
Ddiwrnod ar ôl cofio union 100 mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yr Athro Gerwyn Williams yn trafod sut aeth Emyr Jones ati i gofio'r gyflafan yn ei gyfrol 'Gwaed Gwirion' yn Narlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bu Elan Closs Stephens yn holi rhai o fenywod mwyaf adnabyddus byd y celfyddydau yng Nghymru am rôl menywod mewn swyddi o awdurdod.
Ym Maes D, roedd yr Archdderwydd Christine James yn cyflwyno gwobrau cyfansoddi i ddysgwyr.
Fe gafodd yr archdderwydd hefyd gyfle am gêm o bel-droed bwrdd yn ystod y dydd. Ewch draw i'n oriel ni o luniau'r dydd i weld y dystiolaeth!
Nos Fawrth yn y Pafiliwn, mae cyngerdd arbennig i ddathlu 70 mlynedd ers sefydlu Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr.
Am fwy o wybodaeth am y Brifwyl, ewch i'n gwefan eisteddfod arbennig.