Teyrnged i Liam Wood fu farw ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Published
Mae teyrnged wedi'i roi i un o borthorion Prifysgol Aberystwyth, Liam Wood, cafodd ei ddarganfod yn farw ar y campws.
Roedd Mr Wood, oedd yn ei 20au, wedi bod yn gweithio yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth ers blwyddyn.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol ei fod yn "aelod gwerthfawr a phoblogaidd o'r tîm".
Cafodd ymchwiliad ei lansio gan Heddlu Dyfed Powys ar ôl i gorff Mr Wood gael ei ddarganfod am tua 19:00 ddydd Llun.
Mae ei farwolaeth yn cael ei drin fel un heb ei esbonio.
Mewn datganiad, dywedodd y brifysgol: "Mae ein cydymdeimlad gyda'i deulu a rheiny fuodd yn gweithio yn agos gydag o."
Straeon perthnasol
- Published
- 5 Awst 2014