Tai haf: dyblu treth cyngor 'yn debygol'
- Published
Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, wedi rhybuddio perchnogion tai haf yn y sir fod eu bil treth cyngor yn debygol o ddyblu'r flwyddyn nesaf.
Daw'r rhybudd wrth i gyfnod ymgynghori ddod i ben ynglŷn â chynlluniau i roi'r hawl i awdurdodau lleol godi lefel treth cyngor hyd at 100% yn uwch ar bobl sy'n berchen ar ail dŷ.
Mae'r grymoedd newydd yn rhan o ddiwygio'r Mesur Tai a'r amcangyfrif yw bod 23,000 o dai Cymru yn wag, yn dai haf neu'n ail gartrefi.
Abersoch
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae pentref Abersoch ym Mhen Llŷn yn enghraifft o'r hyn all ddigwydd pan mae gormod o dai haf mewn ardal benodol, gan achosi i brisiau godi tu hwnt i beth y gall pobl ifanc leol ei dalu.
Roedd y cyngor wedi dweud eu bod ar flaen y gad yn yr ymgyrch i gael hawl i godi hyd at ddwbl y dreth cyngor ar dai haf.
"Dwi'n credu y byddan ni'n dechrau o'r safbwynt o godi'r uchafswm sef 200%," meddai Mr Edwards.
"Dwi'n awyddus i sicrhau bod gynnon ni gronfa sylweddol all wneud gwahaniaeth yn y cymunedau sy'n cael eu heffeithio.
"Does dim bwriad i ni jyst chwarae ar yr ymylon gyda hyn."
'£5m y flwyddyn'
Pan gafodd ei holi am faint o arian ychwanegol y byddai'r newidiadau yn y dreth cyngor yn ei godi, dywedodd: "Rydan ni wedi amcan yn fras iawn, ffigwr o gwmpas £5 miliwn y flwyddyn.
"Byddai hynny'n golygu y gall swm felly helpu gyda'r gwasanaethau yn rhai o'n hardaloedd mwyaf gwledig ni.
"Hefyd gallwn geisio sefydlu cronfa i helpu pobl sydd ddim yn gallu dod o hyd i dŷ o gwbl yn rhai o'r ardaloedd hynny sydd dan bwysau aruthrol oherwydd effaith ail-gartrefi."
Ond mae rhai busnesau yn Abersoch yn pryderu am effaith bosibl newidiadau yn y dreth ar economi'r ardal.
Yn ôl Sian Calderwood, rheolwr siop Londis: "Mae'r pentref yn dibynnu gymaint ar bobl sy'n dod yma ar eu gwyliau, a dyma sut mae busnesau'n cael pres i fod ar agor drwy'r flwyddyn.
"Mae'n ddrud i ddod lawr yma fel mae hi ... efo mwy o drethi, bydd na lai'n dod lawr, 'dan ni'n amau."
Osgoi'r dreth?
Mae Cynghorydd Abersoch ar Gyngor Gwynedd, Wyn Williams, wedi dweud bod angen gwneud rhywbeth i leddfu problemau tai haf yn yr ardal.
Ond dywedodd ei fod yn pryderu y byddai perchnogion tai haf yn newid y defnydd maen nhw'n ei wneud o'r tai er mwyn osgoi newidiadau i'r dreth cyngor.
Mi fydd perchnogion, meddai, yn "mynd am y dreth busnes" yn hytrach na thalu'r lefel uwch o dreth y cyngor ac "oherwydd eu bod nhw'n gosod eu tai am 'chydig bach o fisoedd, byddan nhw wedyn yn cael rhyddhad treth busnes.
"Wedyn fydd na ddim elw o gwbl yn dod oddi ar y tai yma."
Mae disgwyl y bydd gan awdurdodau lleol yr hawl i godi terth ar dai haf erbyn mis Ebrill.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Ebrill 2014