BBC Cymru Fyw

Yr heddlu yn dod o hyd i blanhigion canabis ar ôl tân

Published

Dywed yr heddlu yn ardal Wrecsam eu bod nhw'n credu iddyn nhw ddarganfod ffatri ganabis yn dilyn tân mewn tŷ yn Rhosllannerchrugog.

Mae'n debyg fod y tân wedi cychwyn yn nho'r adeilad yn Stryt y Farchnad, ychydig cyn 06:00 ddydd Mercher.

Fe wnaeth y fflamau ledu i dai cyfagos a bu criwiau wrthi tan tua 09:00 yn ceisio eu rheoli.

Daeth swyddogion o hyd i nifer o blanhigion canabis yn dilyn y tân.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu ond bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi.

Mae'r heddlu a'r frigâd dân wedi lansio ymchwiliad ar y cyd ar ôl darganfod y planhigion canabis.

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth am y planhigion gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru.

image copyrightDavid Thomas Jones
image captionCafodd y criwiau eu galw i Stryt y Farchnad ddydd Mercher
image copyrightDavid Thomas Jones
image copyrightDavid Thomas Jones
image copyrightDavid Thomas Jones