Joella Price yw Dysgwr y Flwyddyn 2014

  • Cyhoeddwyd
Joella Price
Disgrifiad o’r llun,
Joella Price yn derbyn y wobr mewn seremoni ym Mharc y Scarlets

Dynes sydd wedi treulio blynyddoedd yn byw yn America, Awstralia, Lloegr a Malta, cyn dychwelyd i Gymru ddwy flynedd yn ôl yw enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2014

Mewn seremoni arbennig ym Mharc y Scarlets, Llanelli, nos Fercher - fel rhan o weithgareddau Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr - cyhoeddwyd mai Joella Price, sy'n wreiddiol o Bort Talbot, oedd yn fuddugol.

Ar ol derbyn y wobr dywedodd Joella: "Mae pawb yn gallu dysgu Cymraeg os ydy nhw'n cael y cyfle."

Dysgodd Joella, sydd nawr yn byw yng Nghaerdydd, ychydig o Gymraeg yn yr ysgol, ond dim digon iddi allu cynnal sgwrs.

Aeth i'r coleg yn Abertawe, a dechreuodd fynychu dosbarthiadau nos, ond wrth iddi symud o le i le, fe ddaeth yn anodd i barhau gyda'r gwersi.

Pan symudodd i Nottingham yn 2009, ymunodd â'r Gymdeithas Gymraeg yn y ddinas, a bu hefyd yn gwylio S4C ar-lein.

Ar ôl dod yn ôl i Gymru i weithio yn yr uned gofal dwys yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, fe ailgydiodd yn y cyfle i ddysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae hi hanner ffordd drwy Gwrs Uwch Dau.

Disgrifiad,

Adroddiad Gwenllian Glyn

Rhestr fer

Dywedodd ei bod yn defnyddio'r Gymraeg yn ei gwaith gyda chleifion bob dydd, ac mae'n falch o allu gwisgo bathodyn Iaith Gwaith ar y ward.

Mae Joella'n awyddus i fod yn diwtor Cymraeg rhan amser, ac mae hefyd yn dysgu Cymraeg i'w chariad.

Y tri arall ar y rhestr fer eleni oedd Nigel Annett, o Ogledd Iwerddon yn wreiddiol, Susan Carey, o Lundain yn wreiddiol, a Holly Cross, a gafodd ei magu a'i haddysgu yn Llundain.

Cafodd Tlws Dysgwr y Flwyddyn ei gyflwyno gan Terry a Catrin Stevens.

Mae Joella yn derbyn £300 - rhodd gan Eglwys Annibynnol Heol Awst, Caerfyrddin. Derbyniodd y tri ymgeisydd arall dlysau llai, oddi wrth Terry a Catrin Stevens, a £100 yr un, eto gan Eglwys Annibynnol Heol Awst.

Am fwy o wybodaeth am y Brifwyl, ewch i'n gwefan eisteddfod arbennig.

Disgrifiad o’r llun,
Joella Price, Holly Cross, Susan Carey a Nigel Annett yn y seremoni