Ysgolion Cynradd Sir Gâr i gyd yn rhai Cymraeg?
- Cyhoeddwyd

Mi fydd ysgolion cynradd Sir Gâr yn rhai Cymraeg eu hiaith yn y dyfodol, yn ôl cadeirydd gweithgor a gafodd ei sefydlu i geisio atal dirywiad yr iaith yn yr ardal.
Roedd Cefin Campbell yn siarad fel rhan o gyfarfod ar Faes yr Eisteddfod yn Llanelli, i drafod addysg Gymraeg a chanlyniadau'r cyfrifiad diwetha'.
Yn y tymor byr, medd y cynghorydd Campbell, bydd ysgolion dwy ffrwd y sir a'r rhai trawsnewidiol yn newid i fod yn rhai Cymraeg. Ychwanegodd bod 'na gynlluniau tymor hir hefyd.
"Mewn ychydig o flynyddoedd...mi fydd bob ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin i bob pwrpas yn ysgolion cyfrwng Cymraeg."
Roedd y cynghorydd Plaid Cymru ar y panel gyda phennaeth Ysgol Gyfun y Strade Llanelli, Heather Lewis, a'r cynghorydd Llafur Calum Higgins, a'r pynciau trafod oedd addysg Gymraeg a chanlyniadau'r cyfrifiad diwetha'.
Cyfrifiad yn gamarweiniol?
Mae'r model addysg wedi ei drafod yn sgil sefydlu gweithgor i edrych ar ddirywiad yr iaith yn y sir wedi Cyfrifiad 2011.
Wrth drafod y cyfrifiad hwnnw, dywedodd Mr Campbell bod y ffigyrau yn medru bod yn gamarweiniol, gan roi darlun gwell na'r realiti.
Cyfeiriodd at Sir Conwy - yn ôl y cyfrifiad, meddai, mae 'na 50% o bobl ifanc rhwng 10-14 yn medru siarad Cymraeg. Ond 16% oedd yn cael eu hasesu fel Cymraeg iaith gyntaf.
Roedd y cynghorydd Llafur hefyd yn cytuno bod y cyfrifiad ddim yn dweud y cyfan. "Mae e 'mond yn rhoi birds eye view...overview yn unig."
Gwneud mwy i gadw'r iaith
Roedd y tri ar y panel yn unfrydol bod angen gwneud mwy i gadw'r iaith ar ôl i ddisgyblion adael yr ysgol gyda Mr Campbell yn cyfeirio at ystadegyn arall.
"Pan mae ein pobl ifanc ni'n gadael yr ysgol yn Sir Gaerfyrddin, yn ôl y cyfrifiad mae 60% ohonyn nhw'n siarad Cymraeg. Ymhen 10 mlynedd mae hwnna'n gostwng i 46%. Ymhen 10 mlynedd wedyn mae'n gostwng i 25%. Felly unwaith maen nhw'n gadael yr ysgol, mae eu gafael nhw ar y Gymraeg yn dirywio."
Diffyg hyder yw un rheswm pam fod hyn yn digwydd, yn ôl Heather Lewis.
"Fydden ni'n dadlau bod hynny achos bod nhw ddim yn teimlo yn ddigon cadarn eu hiaith pan maen nhw'n gadael."
Mae'r brifathrawes hefyd wedi dweud bod angen sefydlu Ysgol Uwchradd Gymraeg arall yn y cyffiniau gan fod un ysgol ddim yn ddigon. Roedd cefnogaeth i'r syniad hwnnw gan y gynulleidfa.
Straeon perthnasol
- 25 Mawrth 2014