Cip 'nôl: Dydd Mercher yn y Brifwyl
- Cyhoeddwyd

Mae'n siŵr y bydd hi'n cymryd dipyn o amser i Lleucu Roberts fynd o un pen o'r Maes i'r llall o hyn ymlaen!
Os oedd 'na rai yn ei llongyfarch ddydd Mawrth ar ennill un wobr, mawr fydd edmygedd pobl ohoni am fod yn fuddugol eto ddydd Mercher a hynny yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith.
Cyfrol ar y thema 'Gwrthdaro' oedd y dasg. Wrth draddodi'r feirniadaeth roedd Catrin Beard yn canmol y ffordd roedd hi'n llwyddo i drin iaith "yn gyson glefyd, a'i champ yw peidio â gwthio'r gelfyddyd i'ch wyneb".
19,004
Er bod 'na ddisgwyl glaw doedd dim rhaid ymbalfalu am y got law. Mi arosodd hi'n sych ac mi ddaeth na 19,004 i weld y 'Croeso' ar y bryn. 19,626 oedd y ffigwr y llynedd.
Mae darlith Betsan Powys wedi agor y drws ar gyfer trafodaeth bellach am ail orsaf radio yn y Gymraeg. Mi allai hyn ddigwydd, meddai, yn sgil "datblygiadau technegol." Ond "ail agor cil y drws" mae DAB ac FM meddai hi.
Yn ddiweddarach nos Fercher, cawsom wybod mai Joella Price yw Dysgwr y Flwyddyn eleni. Roedd 'na bedwar yn y ras i gyd - Nigel Annett, Susan Carey, Holly Cross, Joella Price. Ond Joella, o Bort Talbot yn wreiddiol, ond sy'n byw yng Nghaerdydd bellach, dderbyniodd y tlws gan Terry a Catrin Stevens mewn seremoni ym Mharc y Scarlets.
Sioned Eleri Roberts wnaeth ennill Tlws y Cerddor. Roedd y tlws yn cael ei roi am waith i ensemble llinynnol, mewn un symudiad neu fwy. Dywedodd un o'r beirniaid, Lyn Davies: "Mae wedi darganfod ffordd i ddianc o rigol y dull minimal a chyflwyno rhywbeth dramatig a hudol."
Cystadlu
Nid Lleucu Roberts oedd yr unig un i lwyddo fwy nag unwaith yn y Brifwyl. Roedd Steffan Rhys Hughes a Gethin Lewis ill dau wedi dod yn 1af,2il neu 3ydd mewn sawl cystadleuaeth. Ac mae'n siŵr bod y dyfodol yn ddisglair i Nansi Rhys Adams, ddaeth yn 3ydd yn y gystadleuaeth cân o Sioe Gerdd i rai o dan 19 oed, a hithau ond yn 10 oed.
Tra bod ymwelwyr efallai yn synnu o weld pobl mewn lifrau gwyrdd, glas a gwyn, wedi hen arfer mae'r Eisteddfodwyr selog. Ond efallai bod gweld dau garw ar y Maes wedi bod yn dipyn o sioc i nifer.
Peidiwch â phoeni, dawnswyr mewn gwisgoedd oedden nhw, a gallwch weld mwy o luniau difyr y dydd yn yr oriel luniau yma.
I weld pob math o bethau eraill o Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, cliciwch yma i fynd i'n gwefan Eisteddfod arbennig.