Dadorchuddio tyrbin tanddwr yn Sir Benfro
- Published
Bydd generadur sy'n cael ei bweru gan donau'r môr yn cael ei ddadorchuddio yn Sir Benfro yn ddiweddarach heddiw.
Fe fydd y tyrbin tanddwr yn cael ei leoli ar Swnt Dewi a bydd yn gweithio am gyfnod prawf o 12 mis gan gyflenwi trydan i dai yn Nhyddewi.
Yn ôl prif weinidog Cymru, Carwyn Jones mae'r prosiect yn garreg filltir bwysig yng nghyd-destun ynni gwyrdd.
Yn ôl Tidal Energy, cwmni o Gaerdydd, maen nhw'n gobeithio bydd yr arbrawf yn arwain at gynllun ehangach fydd yn cynnwys naw tyrbin.
Cafodd y ddyfais 150 tunnell ei adeiladu yn Noc Penfro gan Mustang Marine yn arbennig ar gyfer yr arbrawf yma.
Bydd y ddyfais, sydd yr un taldra ac adeilad saith llawr, yn cynhyrchu ynni wrth ddefnyddio pŵer tonau ar wely'r môr.
Yn ôl Tidal Energy, y DeltaStream fydd y ddyfais gyntaf yng Nghymru fydd yn defnyddio ynni'r môr ac wedi ei gysylltu gyda'r grid cenedlaethol
Dywedodd Martin Murphy, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, fod y generadur yn "garreg filltir sylweddol" ac yn "gweld geni'r diwydiant ynni mor yng Nghymru. "
Bydd y prif weinidog yn dadorchuddio'r tyrbin mewn seremoni ddydd Iau.
"Mae hwn yn brosiect o bwys i Gymru, sydd nid yn unig yn ein helpu i gyrraedd ein targedau ynni cynaliadwy, ond a fydd hefyd yn creu cyfleodd i bobl a busnesau lleol," meddai Mr Jones.
O fewn wythnosau mae disgwyl i'r ddyfais 400kW fwydo'r Grid Cenedlaethol, gan gyflenwi ynni i gartrefi yn Nhyddewi.
Mae'r prosiect wedi derbyn £8 miliwn o gronfa'r Undeb Ewropeaidd.
Yn y pendraw mae'r cwmni yn gobeithio codi naw tyrbin oddi ar Benmaen Dewi, gan gyflenwi tua 10,000 o gartrefi.
Straeon perthnasol
- Published
- 10 Mehefin 2014
- Published
- 1 Ebrill 2011