Adolygu dedfryd Michael Pearce
- Published
Mae Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol wedi cadarnhau y bydd dedfryd Michael Pearce am ddynladdiad Alfie Sullock yn cael ei adolygu.
Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi derbyn tua 10 o gwynion yn dweud fod y ddedfryd o naw mlynedd dan glo a roddwyd i Pearce ym mis Gorffennaf gan y barnwr, Mr Ustus Baker, yn rhy fyr.
Penderfynodd y rheithgor bod Michael Pearce o ardal Caerffili yn ddieuog o lofruddiaeth ond yn euog o ddynladdiad, a hynny o fwyafrif o 10-2.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Pearce wedi bod yn gwarchod Alfie Sullock, oedd yn chwe wythnos oed, ar ôl i'w fam Donna, fynd allan gyda ffrindiau am y tro cyntaf ers i'r baban gael ei eni.
Daeth Ms Sullock yn ffrindiau gyda Pearce pan oedd hi chwe mis yn feichiog a doedd ganddi ddim pryderon am adael ei mab gydag ef.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd, fod Alfie wedi ei guro gydag esgid a photel blastig.
Cafodd y babi ei gludo ar frys i'r ysbyty gan barafeddygon oriau wedi iddo gael ei adael yng ngofal Pearce.
Roedd yntau wedi ffonio 999 a dweud nad oedd y babi'n anadlu ond methodd meddygon yn yr ysbyty ag adfywio'r bachgen a bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Dywedodd llefarydd ar ran y Twrnai Cyffredinol fod y ddedfryd dan ystyriaeth a bydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn diwedd y mis.
Bydd yr adolygiad un ai'n penderfynu fod y ddedfryd yn ddigonol neu fod angen ei chyfeirio at y Llys Apêl.
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Gorffennaf 2014
- Published
- 29 Gorffennaf 2014
- Published
- 16 Gorffennaf 2014
- Published
- 9 Gorffennaf 2014
- Published
- 8 Gorffennaf 2014