Cynghorydd Sir Benfro yn ymddiswyddo
- Published
Mae Cynghorydd, Stephen Joseph, wedi ymddiswyddo o'r grŵp sy'n rheoli Cyngor Sir Benfro gan honni fod ei blaid wedi 'amddiffyn' y prif weithredwr rhag derbyn cosb.
Mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Benfro, Bryn Parry Jones, yn destun ymchwiliad gan Heddlu Sir Gaerloyw. Mae'r llu'n ymchwilio i honiadau bod Mr Jones wedi derbyn taliadau anghyfreithlon.
Fis diwethaf pleidleisiodd y cyngor i beidio â chymryd camau pellach yn erbyn y prif weithredwr i'w orfodi i ad-dalu taliadau anghyfreithlon. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi dod i'r casgliad bod y taliadau dderbyniodd Bryn Parry Jones yn anghyfreithlon.
Mae'r Cynghorydd Stephen Joseph wedi gadael y Grŵp Annibynnol Plws (GAP) gan honni bod difaterwch y cyngor wedi ei 'wthio' i ymddiswyddo gan alw'r system gabinet yn 'ddrwg'.
Gwleidyddiaeth a hunan-les
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Fedrai ddim cyd-fynd â beth maen nhw'n wneud, maen nhw'n ei amddiffyn o, dyna sy'n digwydd.
"Rydw i wedi treulio amser yn trio eu darbwyllo nhw (GAP) bod teyrngarwch i Bryn Parry Jones yn anghywir - rydw i wedi trio'n galed i wneud iddyn nhw weld synnwyr.
"Mae'r cynghorwyr cyffredin GAP yn cytuno'n llwyr - pan nad ydyn nhw'n gwneud unrhyw beth ynglŷn â'r mater?"
Dywedodd y Cynghorydd Joseph mai gwleidyddiaeth a phryder am hunan-les sydd ar fai:
"Rydw i'n meddwl bod aelodau eraill o'r cabinet yn poeni y bydd eu rôl nhw'n cael eu cwestiynu."
Cyfrifoldeb am 'gamgymeriadau'
Mae Stephen Joseph, sy'n cynrychioli Aberdaugleddau, wedi dweud bod y prif weithredwr yn gyfrifol am nifer o 'gamgymeriadau' sydd wedi eu gwneud gan y cyngor yn ddiweddar, gan gynnwys achos gweithiwr ieuenctid, Mike Smith, a gafodd ei ddiswyddo gan y Cyngor cyn mynd ymlaen i gamdrin bachgen.
Yn ôl y Cynghorydd Joseph: "Tydw i ddim yn derbyn nad oedd y Prif Weithredwr yn ymwybodol o'r sefyllfa ynglŷn â Mike Smith a tydw i ddim yn derbyn y dylai fod yn ddiogel rhag y drefn ddisgyblu mae pob gweithiwr wedi'i ymrwymo i hi. Dylai gael ei wahardd dros dro tra mae'r ymchwilaid yn mynd yn ei blaen."
Mae'r Cynghorydd Joseph bellach yn bwriadu sefyll fel cynghorydd annibynnol, gan ysgrifennu at ei gyd-gynghorwyr i egluro ei sefyllfa.
Ymateb y Cyngor
Mae'r Cynghorydd Jamie Adams wedi ymateb i'r ymddiswyddiad drwy ddweud: "Rydw i'n drist bod Steve wedi penderfynu gadael y Grŵp Annibynnol Plws. Doeddwn i ddim o reidrwydd yn cytuno ag ef drwy'r amser, ond roeddwn i'n parchu ei ymrwymiad i gyflawni gwelliannau ar gyfer trigolion Aberdaugleddau, ymrwymiad rydw i'n rannu.
"Tydw i ddim yn derbyn y darlun mae Steve wedi ceisio'i greu yn ei lythyr i gynghorwyr. Mae gan Sir Benfro wasanaethau da sy'n parhau i wella, y gyfradd treth cyngor isaf yng Nghymru, a thaliadau isel am lawer o'n gwasanaethau, yn enwedig i'w gymharu â siroedd eraill.
"Rydw i'n falch bod y mwyafrif o fy nghyd-gynghorwyr wedi anwybyddu'r ffraeo dibwys sy'n denu sylw rhai, gan yn hytrach ganolbwyntio ar faterion hir dymor.
"Rydw i hefyd yn ddiolchgar i'r aelodau hynny sydd wedi ceisio cymryd rhan yn ein hymdrechion i wella perthnasau o fewn yr awdurdod. Mae'n rhaid blaenoriaethu dyfodol Sir Benfro dros unrhyw ddymuniad i fodloni'r rheiny sy'n ysgrifennu penawdau'r papurau newydd".
Straeon perthnasol
- Published
- 23 Gorffennaf 2014
- Published
- 17 Gorffennaf 2014
- Published
- 17 Gorffennaf 2014
- Published
- 6 Mai 2014
- Published
- 1 Mai 2014
- Published
- 6 Mawrth 2014
- Published
- 19 Chwefror 2014
- Published
- 17 Chwefror 2014
- Published
- 30 Ionawr 2014