Blackburn Rovers 1-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Caerdydd wedi dechrau eu tymor yn y Bencampwriaeth nos Wener gyda gêm gyfartal 1-1 oddi cartref yn erbyn Blackburn.
Kenwyne Jones a beniodd y bêl i'r rhwyd i roi'r ymwelwyr ar y blaen wedi 18 munud yn Ewood Park.
Ond pum munud cyn yr egwyl, daeth Blackburn yn gyfartal gyda Tom Cairney yn derbyn y bêl tua 25 llath o'r gôl, yn rhedeg â hi cyn ergydio â'i droed chwith i gefn y rhwyd.
Dim ond dau gefnwr canol oedd ar gael i Gaerdydd, gyda Juan Cala wedi ei wahardd a Ben Turner wedi ei anafu, felly roedd Matt Connolly yn bartner i Mark Hudson.
Y farn gyffredinol oedd mai Caerdydd gafodd y gorau o'r hanner cyntaf ond mai Blackburn a chwaraeodd orau yn yr ail hanner, a bod pwynt yr un yn deg.
A chan mai hon oedd yr unig gêm yn y Bencampwriaeth nos Wener, mae Caerdydd yn gydradd gyntaf ar y brig - byddai Ole Gunnar Solskjaer yn setlo am hynny ar ddiwedd y tymor!
Straeon perthnasol
- 1 Mai 2014