Pryderon am fwlio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,
Mae tua 570 o welyau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae swyddogion iechyd yn ymchwilio i bryderon am fwlio honedig sydd wedi eu codi gan rhai aelodau o staff mewn ysbyty yn Llantrisant.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn dweud eu bod yn cymryd pryderon gan rhai o staff adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg o ddifri ac yn cynnal ymchwil mewn i'r mater.

Mae'r ysbyty yn gwasanaethu cymunedau ardal Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tydfil.