'Angen dinasyddiaeth i gryfhau iaith a diwylliant'
- Published
Mae angen sefydlu'r syniad o ddinasyddiaeth i gryfhau'r diwylliant a'r iaith Gymraeg, medd academydd.
Ar Faes yr Eisteddfod wrth drafod effaith twf cenedlaetholdeb Seisnig, dywedodd y Dr Simon Brooks y byddai'r iaith yn "barot marw" pe bai cenedlaetholwyr Seisnig yn troi ar Gymru.
Tra oedd diffyg trafodaeth yng Nghymru, meddai, roedd dinasyddiaeth yn bwnc llosg ar draws y ffin.
Heb ddinasyddiaeth, awgrymodd y byddai'r diwylliant Cymraeg yn cael ei wthio ymhellach i'r ymylon yn y dyfodol.
Dr Brooks oedd yn traddodi darlith y Sefydliad Materion Cymreig brynhawn Iau.
'Balans'
Dywedodd fod trefn y Deyrnas Gyfun wreiddiol wedi cynnig "balans lled gydradd rhwng Sacson a Chelt" ond na fyddai hynny yn wir petai'r Alban yn penderfynu gadael yr undeb.
Honnodd y byddai dros 90% o'r boblogaeth yn Saeson yn sgil pleidlais Ie yn yr Alban ac y byddai hynny'n cael effaith ar Gymru.
Roedd twf cenedlaetholdeb yn Lloegr, meddai, a'i agwedd "anoddefgar" at leiafrifoedd yn y wlad yn "bryder, a ddim yn ddi-arwyddocaol".
Y rheswm oedd y gallai'r teimladau negyddol hyn gael eu hanelu at Gymru "o fewn 20 mlynedd," petai'r Alban yn gadael yr undeb.
Soniodd bod y drafodaeth am orfodi mewnfudwyr i ddysgu Saesneg yn un eang ar draws y ffin.
Gan nad oedd trafodaeth debyg yng Nghymru, meddai, roedd y farn yn lledu i Gymru.
UKIP
"Mae peidio ffurfio dinasyddiaeth yng Nghymru yn gwneud gwaith UKIP drostyn nhw. Dyna'r realiti ar lawr gwlad."
Galwodd am ddisgwyliad ar fewnfudwyr i ddysgu dwy iaith swyddogol y wlad, ac i ddeall diwylliant Cymraeg yn ogystal a Saesneg er mwyn osgoi sefyllfa lle mae'r Gymraeg ar yr ymylon.
"Dwi ddim yn credu ei bod hi'n briodol o safbwynt dinasyddiaeth yng Nghymru fod dwyieithrwydd yn cael ei weld mewn ardaloedd Cymraeg fel hawl pobl ddi-gymraeg sy'n symud i mewn i beidio dysgu Cymraeg, nac i'r gymuned leol newid eu hiaith ar eu cyfer nhw.
"Dwi'n credu bod angen gwneud gwaith integreiddio cymdeithasol a hynny'n cael ei rannu."
Lefel o ddwyieithrwydd
Galwodd am ei gwneud hi'n orfodol i fewnfudwyr gyrraedd lefel o ddwyieithrwydd, ac am weithredu gan Lywodraeth Cymru fel y byddai'n ddymunol i bobl sy'n symud i mewn ddysgu'r Gymraeg.
Roedd angen i fewnfudwyr gael eu harwain at ddysgu Cymraeg am ddim, fel sy'n digwydd ar gyfer y Saesneg ar hyn o bryd.
I gloi ei ddadl, dywedodd fod angen newid agwedd at fewnfudwyr.
Roedd angen trafodaeth genedlaethol am fewnfudo, meddai, a magu agwedd gan y gallai mewnfudwyr "gyfnerthu cenedlaetholdeb" yn hytrach na'i ddifetha.