Dydd Gwener ar y Maes: O'r Orsedd i'r Cadeirio

  • Cyhoeddwyd
Cylch yr OrseddFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Roedd torf dda wedi dod i Gylch yr Orsedd yn Ninbych y llynedd

Wrth nesáu at ddiwedd Prifwyl Sir Gâr 2014, mae digon i ddiddanu Eisteddfodwyr ddydd Gwener.

Daeth 18,740 i'r Maes yn Llanelli ddydd Iau - ychydig yn llai na'r un diwrnod y llynedd. Ond roedd yr haul yn gwenu drwy gydol y dydd, a bydd y trefnwyr yn gobeithio am ragor o dywydd braf i gloi'r Eisteddfod.

Wedi teilyngdod ym mhob un o'r prif seremonïau hyd yma, bydd 'na obeithion mawr ar gyfer seremoni'r Cadeirio yn y Pafiliwn am 16:30.

'Lloches' yw'r teitl gosod eleni, gyda disgwyl i'r beirdd gyflwyno awdl ar fwy nag un o'r mesurau caeth heb fod dros 250 o linellau.

Llion Jones fydd yn traddodi'r feirniadaeth ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn Gwener, ar ran ei gyd feirniaid, Alan Llwyd ac Idris Reynolds.

Bydd yr Orsedd yn brysur yn gynharach yn y dydd, gydag aelodau newydd yn cael eu hurddo wrth Gylch yr Orsedd (os bydd yn sych!) am 11:00. Ymhlith yr aelodau newydd eleni, mae'r athletwr Paralympaidd Aled Sion Davies, y chwaraewr rygbi Stephen Jones, y darlledwr Arfon Haines Davies, a'r naturiaethwr Duncan Brown.

Yn y Pafiliwn wedyn, bydd 'na wledd o gystadlu, gan ddechrau gyda'r Unawd Lieder dros 25 oed am 10:00. Am 14:00, bydd y Rhuban Glas Offerynnol i rai dros 19 oed yn cael ei gyflwyno.