Norman Jones, 81 oed yn cyfaddef gyrru'n ddiofal
- Cyhoeddwyd

Mae pensiynwr a yrrodd ei gar i mewn i farchnad stryd yn yr Wyddgrug gan anafu deg o gerddwyr ychydig cyn y Nadolig wedi cyfaddef gyrru yn ddiofal.
Dywedodd Norman Jones, 81, o Bentre Helygain nad oedd yn gallu esbonio beth ddigwyddodd, gan ychwanegu mai ei ddementia oedd ar fai.
Plediodd yn euog trwy lythyr, ymddiheurodd a dywedodd bod y ddamwain wedi bod yn wers iddo nad oedd bellach yn ffit i yrru.
Fe wnaeth ynadon, sy'n ystyried gwaharddiad rhag gyrru, ohirio'r ddedfryd am bythefnos er mwyn i Jones fod yn bresennol.
Digwyddodd y ddamwain ychydig cyn 11:00 y bore ar 7 Rhagfyr 2013 yng nghanol tref yr Wyddgrug.
Dywedodd yr erlynydd Shaun Bartlett-Evans fod deg cerddwr wedi cael eu hanafu pan aeth y Citroen Picasso i adran y stryd fawr sydd i gerddwyr yn unig, yn ystod y farchnad a oedd yn brysur gyda siopwyr.
Cafodd tair o fenywod eu hanafu. Fe wnaeth un ddioddef anafiadau difrifol i'w choes a arweiniodd at saith o binnau yn cael eu gosod ac efallai y bydd angen pen-glin newydd;
Torrodd menyw arall ei choes a'i ffêr tra bod un arall wedi torri asennau ac wedi cael anaf i'w ffêr a chleisio.
Cafodd chwech o fenywod eraill ac un dyn eu brifo hefyd.
Yn ei lythyr yn pledio'n euog, dywedodd Jones, oedd â thrwydded yrru lân yn flaenorol, iddo gael diagnosis o golli cof a dementia tua 18 mis yn ôl.