Cadw plant yn ddiogel - cadw oddi ar y copaon

  • Cyhoeddwyd
Yr Wyddfa

Mae wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri wedi dweud mai cadw oddi ar y copaon yw'r ffordd orau i gadw plant yn ddiogel wrth gerdded yn y mynyddoedd.

Wrth i ymwelwyr yr haf ddod i'r parc cenedlaethol, mae'r awdurdod yn rhybuddio teuluoedd gyda phlant ifanc i gadw oddi wrth y copaon.

Dydd Iau, achubwyd pump o bobl mewn dau ddigwyddiad gwahanol wedi iddyn nhw fynd i drafferthion.

Yn ogystal, mae'r parc cenedlaethol yn cael gwared ar lwybrau 'ffug' wedi i grwner ddweud eu bod nhw'n gallu creu peryglon.

Dwy alwad mewn llai na dwy awr

Dydd Iau bu'n rhaid i hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali achub dau griw o bobl mewn cyfnod o lai na dwy awr.

Cafodd dyn a dynes eu hachub wedi iddyn nhw gymryd tro anghywir ar y Grib Bigog uwchben Dyffryn Ogwen, gan fynd yn sownd mewn rhigol serth, am tua 14:45.

Roedd y pâr wedi chwythu eu chwiban a galw 999, cyn cael eu cludo i ganolfan achub mynydd Ogwen.

Am 16:30 bu'n rhaid i hofrennydd achub dyn yn ei 70au oedd wedi blino gormod i barhau wrth gerdded lawr o gopa'r Wyddfa ar lwybr Rhyd Ddu gyda'i bartner a'i wyres. Cafodd ei gludo i faes parcio yng ngwaelod y dyffryn.

'Heriol, hyd yn oed yn yr haf'

Yn ôl pennaeth Gwasanaethau Wardeiniaid a Mynediad y parc cenedlaethol, Mair Huws: "Gall cerdded ar y mynyddoedd fod yn heriol, hyd yn oed yn yr haf, a tydi mynd â phlant sydd wedi blino i'r copaon ddim yn brofiad braf.

"Gall achosi plant i gael agwedd negyddol tuag at gerdded am weddill eu bywydau."

Yn y cyfamser mae wardeiniaid wedi cychwyn ar y dasg o gael gwared ar 'lwybrau ffug' ar yr Wyddfa wedi i grwner ddweud y gallan nhw beryglu bywydau cerddwyr.

Gwnaed y sylwadau gan ddirprwy grwner Gogledd Orllewin Cymru, Nicola Jones, fis diwethaf yn ystod y cwest i farwolaeth Dylan Rattray, 21 oed, a fu farw wedi iddo ddisgyn 600 troedfedd oddi ar yr Wyddfa.

Roedd Mr Rattray o Lanfihangel-y-Creuddyn, Ceredigion, wedi bod yn cerdded gyda'i ffrind, Jack Bonner, pan syrthiodd oddi ar Clogwyn y Garnedd ar 18 Ebrill.

Dywedodd Mr Bonner wrth y cwest fod y ddau'n credu eu bod nhw'n cerdded ar hyd llwybr sefydledig.

Pwysigrwydd cymryd gofal

Mae rhybudd diogelwch y parc cenedlaethol, wedi cael ei bwysleisio gan John Grisdale o Dîm Achub Mynydd Llanberis, sy'n rhan o'r Bartneriaeth Mynydda Diogel.

Dywedodd: "Yn anffodus, mae digwyddiadau trasig diweddar ar y mynyddoedd wedi dangos pa mor bwysig yw cymryd gofal.

"Ar ôl i chi benderfynu ble rydych chi am fynd, cofiwch fod angen paratoi er mwyn sicrhau eich bod chi'n ddiogel, hyd yn oed yn yr haf."

Cyngor diogelwch

Yn ôl cyngor diogelwch y Bartneriaeth Mynydda Diogel:

  • Dylai pobl baratoi o flaen llaw - gan fynd â map, cwmpawd a digon o ddŵr.
  • Dylai pobl wisgo dillad addas a sicrhau bod eu plant yn gwisgo dillad addas - het haul, eli haul, dillad glaw a dillad cynnes rhag ofn.
  • Dylai pobl edrych ar ragolygon tywydd y Met Office ar gyfer Ardal Mynydd Eryri a pheidio â bod ofn canslo cynlluniau i gerdded y mynyddoedd os ydi'r tywydd yn anaddas.

Mae'r Bartneriaeth Mynydda Diogel yn cynnwys Heddlu Gogledd Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru.