Cynnydd ym mhris tir fferm yng Nghymru
- Published
Mae pris tir fferm yng Nghymru wedi cynyddu mwy nag yn unrhyw ran arall o'r DU, yn ôl ffigyrau newydd.
Mae pris cyfartalog erw o dir bellach yn £8,625, cynnydd o 19% yn y 12 mis diwethaf, a 7% yn uwch na'r pris cyfartalog cenedlaethol ar gyfer y DU, yn ôl Arolwg Tir Gwledig Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (SBSS).
Maen nhw'n dweud bod y galw am dir yn parhau i fod yn uwch na'r cyflenwad a bod hyn yn cynyddu prisiau.
Mae pris tir bellach bedair gwaith yn uwch nag yr oedd pan gychwynnodd y cofnodion yn 1994.
Dywedodd Uwch Economegydd y SBSS, Joshua Miller eu bod nhw'n disgwyl y bydd pris tir fferm yn parhau i gynyddu yn y 12 mis nesaf.
"Mae'r galw am dir yn parhau'n gryf ar yr ochr fasnachol, yn enwedig gan ffermwyr sydd eisiau ehangu i dir cyfagos".