Croesfan: Gwahardd gyrrwr o Bont-y-clun am 12 mis
- Published
Mae dyn wnaeth yrru yn gyflym dros groesfan wrth i'r rhwystrau gau wedi cael ei wahardd rhag gyrru.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Sion Ramson wedi croesi croesfan Pont-y-clun er mwyn ymweld â'i nain oedd yn sâl.
Cafodd ei ddal ar gamera cylch cyfyng yn anwybyddu'r goleuadau coch oedd yn fflachio, ac yna croesi mymryn cyn i drên gyrraedd.
Fe wnaeth Ramson o Bont-y-clun bledio'n euog i gyhuddiad o yrru'n beryglus.
Cafodd dedfryd o garchar am bedwar mis wedi ei ohirio, a'i wahardd rhag gyrru am 12 mis.
Dywedodd y barnwr Stephen Hopkins QC: "Rydych wedi gwneud rhywbeth anhygoel o wirion.
"Fe wnaethoch beryglu bywyd eich hunain a hefyd bywyd y bobl ar y trên. "
Fe wnaeth o groesi'r groesfan wrth i drên First Great Western agosáu, ar y gwasanaeth cyflymdra uchel rhwng Abertawe a Llundain.
Cafodd ei arestio yn ei gartref.
Dywedodd wrth yr heddlu: "Rwy'n gwybod na ddylwn i wedi croesi yn y modd yna. Rwy'n ddrwg iawn am hyn, rwy'n gwybod y gallai wedi achosi damwain difrifol."