Cyngor Môn yn llwyddo i gael gorchymyn llys
- Published
Dywed Cyngor Môn eu bod wedi llwyddo i gael gorchymyn llys sy'n galw ar deithwyr i symud eu carafanau o un o safleoedd Sioe Môn.
Bydd gŵys yn cael ei roi i'r teithwyr rhywbryd bnawn Gwener.
Mae disgwyl iddynt adael y safle erbyn 0900 fore Llun.
Fe wnaeth y teithwyr symud i'r safle, sy'n cael ei ddefnyddio fel maes parcio, ddydd Iau.
Mae tua 60,000 o ymwelwyr sy'n ymweld â sioe Môn dros gyfnod o ddau ddiwrnod yn defnyddio'r maes parcio ar safle sy'n berchen i Gyngor Môn ac yn rhan o Barc Diwydiannol Mona.
Dywedodd llefarydd: "Yn Llys y Goron Caernarfon roedd y sir yn llwyddiannus yn sicrhau gorchymyn perchnogaeth a gŵys i symud Teithwyr oddi ar safle ar Barc Diwydiannol Mona."
Straeon perthnasol
- Published
- 7 Awst 2014