7 mlynedd o garchar am dwyllo Clwb Rygbi Cymry Llundain

  • Cyhoeddwyd
Neil Hollinshead
Disgrifiad o’r llun,
Neil Hollinshead

Cafodd dyn busnes oedd wedi twyllo buddsoddwyr i brynu Clwb Rygbi y Cymry yn Llundain ei garcharu am 7 mlynedd ddydd Gwener.

Fe brynodd Neil Hollinshead, 36, y clwb rygbi hanesyddol yn 2009 ar ôl darbwyllo buddsoddwyr fod ganddo gysylltiadau gyda theulu brenhinol Saudi Arabia.

Llwyddodd Hollinshead hefyd i ddarbwyllo swyddogion undeb rygbi'r RFU yn Lloegr fod ganddo £1.4m yn ei gyfrif banc ar gyfer ariannu pryniant y clwb.

Tywysog Saudi Arabia

Roedd y clwb rygbi hanesyddol ar fin mynd i'r wal pan ddywedodd Mr Hollinshead y byddai'n gallu achub y clwb gydag arian un o dywysogion Saudi Arabia.

Dywedodd fod ganddo gysylltiadau agos gyda'r Tywysog Khalid Alwaleed Bin Talal Al Saud trwy gwmni o'r enw Saudex Global, a dywedodd wrth yr RFU y byddai £1m yn cael ei wario yn flynyddol ar y clwb

Clywodd Llys y Goron Southwark fod Clwb Rygbi y Cymry yn Llundain wedi rhoi £350,000 i Hollinshead ar yr amod y byddai'n buddsoddi £1m ar frys yn y clwb.

E-bost ffug

Derbyniodd y clwb e-bost gan weithiwr o fanc HSBC yn dangos fod gan gwmni Neil Hollinshead £1.4m yn y banc.

Ond fe gafodd bwrdd y clwb rygbi glywed yn ddiweddarach gan fanc yr HSBC nad oedd y gweithiwr oedd wedi anfon yr e-bost yn bodoli.

Daeth Clwb Rygbi y Cymry yn Llundain ag achos llwyddiannus yn erbyn Neil Hollinshead yn yr Uchel Lys am £400,000 yn 2009, cyn i'r dyn busnes gael ei wneud yn fethdalwr.

Roedd yn gwadu bod yn gyfrifol am nifer o achosion o dwyll drwy ei gwmni Red Dragon Rugby Ltd rhwng Hydref 2008 ag Ebrill 2010.

Ond penderfynodd y rheithgor ar ôl pedair awr ei fod o'n euog o dri chyhuddiad o dwyll

''Diffyg edifeirwch''

''Diffyg edifeirwch''

Wrth garcharu Hollinshead am saith mlynedd, fe ddywedodd y Barnwr David Higgins: ''Mae'n arwyddocaol fod y rheithgor, ar ôl achos sydd wedi para nifer fawr o wythnosau, gydag achos yr erlyniad oedd yn un cymhleth, wedi eich dedfrydu yn euog ar ôl pedair awr yn unig.

''Mae hyn yn adlewyrchu'r dystiolaeth ysgubol oedd yn eich erbyn, a'ch agwedd tuag at y dystiolaeth yna, a'ch diffyg edifeirwch.''

Cafodd cyfreithiwr Neil Hollinshead, Miles Cox, ei ddyfarnu'n ddieuog i bum honiad o dwyll yn ystod yr achos.